Neidio i'r prif gynnwy

Clustffonau Realiti Rhithwir

Hoffech chi ddianc i draeth? Neu ymarfer anadlu ystyriol yn edrych dros y môr? Gallwch fenthyg clustffon Rhithwirionedd gennym ni am 8 wythnos a gwneud hynny! Rydym yn gyffrous i fod y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i gynnig y dechnoleg arloesol hon i’n staff, sy’n darparu profiad trochi lle cewch ymlacio, chwarae gemau a chael eich cyflwyno i ymwybyddiaeth ofalgar mewn ffordd newydd yng nghysur eich cartref eich hun. . Gallwch fwynhau tirweddau hardd, ymarfer technegau ymlacio a dysgu technegau ymwybyddiaeth ofalgar sylfaenol.

VR headsets help stressed NHS staff escape reality - BBC News

Os hoffech fenthyg un am 8 wythnos llenwch ein Ffurflen Gyfeirio.
 

Hoffech chi gymryd rhan yn ein hymchwil?
Rydym wedi bod yn cynnal ymchwil arloesol i’r ffordd newydd hon o gefnogi staff, gan archwilio effaith y clustffonau ar lefelau anhunedd, iselder, gorbryder, straen ac ansawdd bywyd proffesiynol. Mae’r ymchwil bwysig hon yn ein helpu i archwilio ffyrdd arloesol o gefnogi lles staff, nid yn unig yn CTM, ond mewn sefydliadau ledled y wlad. Mae cymryd rhan yn yr ymchwil yn golygu benthyca un o’n clustffonau rhith-realiti am 8 wythnos, ei ddefnyddio am 10 munud y dydd, a chwblhau holiaduron byr cyn ac ar ôl yr 8 wythnos. Er y gallwch fenthyg clustffon heb gymryd rhan yn yr ymchwil, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech ystyried cymryd rhan. Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am yr ymchwil, anfonwch e-bost atom ar CTM.WellbeingService@wales.nhs.uk.

Dilynwch ni: