Mae Helpa Fi i Stopio i fy Mabi yn wasanaeth rhad ac am ddim gan y GIG sy'n cefnogi pobl feichiog i roi'r gorau i ysmygu. Mae’n rhan bwysig o’n gwasanaeth mamolaeth yng Nghwm Taf Morgannwg. Mae pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth hyd at 4 gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau i ysmygu. Mae’n wasanaeth hyblyg a all eich cefnogi, mewn ffordd sy’n gweithio i chi. Gall ein tîm Helpa Fi i Stopio i fy Mabi eich helpu trwy ymweliadau cartref, cymorth dros y ffôn a neges destun.
Mae ein Gweithwyr Cymorth Mamolaeth yn deall pa mor anodd y gall hi fod i roi'r gorau i ysmygu ac mae ganddyn nhw brofiad o weithio gyda phobl feichiog mewn gwahanol sefyllfaoedd. Gallwch chi gael cymorth ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd. Os fyddwch chi ddim yn llwyddo y tro cyntaf neu'n newid eich meddwl am roi'r gorau iddi, mae ein drws bob amser ar agor heb unrhyw feirniadaeth.
Mae dros 4,000 o gemegau mewn sigaréts. Mae llawer o'r rhain yn wenwynig ac yn eich niweidio chi a'ch babi heb ei eni. Y newyddion da yw os byddwch chi'n rhoi'r gorau i ysmygu:
• Bydd eich babi yn elwa ar unwaith
• Rydych chi'n fwy tebygol o gael beichiogrwydd iachach a babi iachach
• Byddwch chi’n lleihau'r risg o farw-enedigaeth a syndrom marwolaeth sydyn babanod (marwolaeth yn y crud)
• Mae eich babi yn llai tebygol o gael ei eni'n gynnar
• Mae eich babi yn fwy tebygol o gael ei eni yn bwysau iach ac wedi datblygu'n llawn
• Bydd gan eich plentyn risg is o ADHD
• Fydd dim rhaid i chi adael eich babi newydd-anedig ar ei ben ei hun tra byddwch chi’n ysmygu
I gael rhagor o wybodaeth, siaradwch â'ch bydwraig neu ewch i Ysmygu yn ystod beichiogrwydd.