Neidio i'r prif gynnwy

Safleoedd Ysbytai Di-fwg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn sefydliad sy'n canolbwyntio ar iechyd y boblogaeth ac mae ganddo ddyletswydd gofal i ddarparu amgylchedd di-fwg i staff a chleifion. Rydym am i'n holl ysbytai a chyfleusterau fod yn fannau lle mae iechyd yn cael ei hybu. Er mwyn amddiffyn cleifion, ymwelwyr a staff rhag effeithiau niweidiol ysmygu, mae pob safle ysbyty yn CTM yn ddi-fwg. 

Peidiwch ag ysmygu neu ddefnyddio e-sigaréts yn ein hysbytai, gan gynnwys pob rhan o dir yr ysbyty, meysydd parcio a cherbydau.

Ysmygu yw'r achos unigol mwyaf o salwch y gellir ei osgoi a marwolaeth gynnar yng Nghymru. Mae ysbytai yn un o lawer o fannau cyhoeddus sydd bellach yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fod yn ddi-fwg. Bydd y mesur hwn yn helpu i ddiogelu iechyd a lles pawb sy'n defnyddio ein hysbytai, gan gynnwys ein cleifion, staff ac ymwelwyr.

O dan gyfreithiau newydd a basiwyd gan Lywodraeth Cymru, gallai unrhyw un sy'n cael ei ganfod yn ysmygu ar safleoedd ein hysbytai - y tu mewn neu'r tu allan - gael dirwy o £100.

Cael cymorth arbenigol am ddim gan y GIG i roi'r gorau iddi heddiw

Gallwch gael cymorth am ddim i roi'r gorau i ysmygu gan Helpa Fi i Stopio ar unrhyw adeg.

Dilynwch ni: