Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd meddwl ôl-enedigol -- sut ydw i'n gallu helpu?

Bydd y rhan fwyaf o rieni newydd yn teimlo rhywfaint o orbryder yn ystod yr wythnosau cyntaf o fod yn deulu, ond os bydd y gorbryder hwnnw’n gyson ac os bydd yn effeithio ar fywyd bob dydd, mae’n bosib y bydd angen rhagor o gymorth ar eich partner.

Gallwch chi helpu drwy wneud y canlynol:

  • Annog eich partner i siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol
  • Siarad â'ch gilydd, rhoi sicrwydd i’ch partner ac awgrymu ei fod yn ysgrifennu unrhyw bryderon fel bod modd eu rhannu â gweithiwr iechyd proffesiynol
  • Helpu o gwmpas y tŷ
  • Gosod terfynau gyda ffrindiau a theulu, fel na fydd ymwelwyr yn gorlethu eich partner
  • Help i olchi dillad
  • Mynd gyda’ch partner i apwyntiadau gyda’r meddyg, pan fydd hynny’n bosib
  • Darganfod mwy am iechyd meddwl yn ystod y cyfnod ôl-enedigol
  • Eistedd gyda'ch gilydd, heb fod unrhyw beth yn tynnu eich sylw, fel eich ffôn, y teledu ac ati, a rhoi gwybod i’ch partner eich bod chi gerllaw
  • Gwneud yn siŵr eich bod chi’n edrych ar eich partner bob amser wrth siarad â'ch gilydd
  • Annog eich partner i orffwys
  • Holi ynglŷn â beth gallwch chi ei wneud i helpu
  • Gwrando ar eich partner
  • Bod yn amyneddgar
Dilynwch ni: