Neidio i'r prif gynnwy

Genedigaethau gwahanol -- beth i'w ddisgwyl gan bartner

Yn ystod y cyfnod esgor a’r enedigaeth, mae'n bwysig teimlo eich bod chi'n gallu rhoi cymorth i’ch partner pan fydd hynny'n bosib. Byddwch chi’n cael cymorth ac arweiniad gan y fydwraig a'r staff yn yr ysbyty, ond dyma ambell awgrym:

  1. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael digon o orffwys. Cymerwch seibiant bach os bydd angen er mwyn ymlacio a chasglu eich meddyliau.
  2. Tra bod eich partner yn esgor, rhowch gymorth drwy gynnig byrbrydau a diodydd, a chofiwch yfed digon o ddŵr eich hun hefyd!
  3. Yn ystod genedigaeth drwy'r wain, gallwch chi symud gyda'ch partner er mwyn hwyluso gwahanol safleoedd ac yn ystod yr enedigaeth, byddwch chi’n cael cyfle i dorri llinyn y babi a chael cyswllt croen wrth groen ar ôl y geni, os hoffech chi wneud hynny.
  4. Os bydd angen unrhyw gymorth ar eich partner yn ystod yr enedigaeth, byddwn ni’n rhoi cymorth i chi ynglŷn â beth gallwch chi ei wneud i helpu.
  5. Os bydd angen trosglwyddo eich partner i’r theatr, byddwn ni’n eich helpu chi i newid i ddillad theatr ac yn rhoi cyngor i chi ynglŷn â ble i sefyll yn y theatr. Mae hyn yn bwysig gan fod llawer o fannau sterilaidd mewn theatr.  Peidiwch â phoeni am hyn, byddwn ni’n rhoi cyngor i chi ar y pryd.
  6. Yn y theatr, unwaith y bydd eich partner wedi cael y poenladdwyr priodol, byddwch chi’n eich eistedd wrth ymyl eich partner a byddwn ni’n esbonio’r llawdriniaeth i chi.
  7. Unwaith y bydd eich babi wedi ei eni, bydd y ddau ohonoch chi’n cael cynnig cyswllt croen wrth groen, a dylech chi barhau i eistedd oni fyddwch chi’n cael gwybod yn wahanol.
  8. Byddwch chi’n aros gyda'ch partner am gyfnod ar ôl genedigaeth, a byddwn ni’n rhoi cymorth i’r ddau ohonoch chi yn ystod y cyfnod hwn.
  9. Gallwch chi roi cymorth i'ch partner trwy gynnig bwyd a diod, pasio'r babi er mwyn ei fwydo a galw’r staff am help os bydd angen unrhyw beth arnoch chi.
Dilynwch ni: