Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydw i'n gallu helpu fy hun?

Mae iselder yn gallu gwneud i chi fod eisiau cuddio rhag y byd, ac mae’n bosib na fydd awydd gwneud unrhyw beth gyda chi. Fodd bynnag, mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn edrych ar ôl eich hun. Dechreuwch gyda gweithgareddau bach, gwnewch bethau ar eich cyflymder eich hun, ac yn bwysicaf oll, gofynnwch am gymorth os bydd angen. Dyma ambell syniad allai eich helpu. 

  • Siaradwch am eich teimladau â rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo, fel eich partner, aelod o'r teulu neu ffrind.
  • Ddylai hyn ddim codi cywilydd neu embaras arnoch na gwneud i chi deimlo’n euog. Nid chi sydd ar fai am y teimladau hyn.
  • Rhowch gynnig ar rai o'n hawgrymiadau ar gyfer gofalu am eich lles emosiynol.
  • Gwnewch ymarfer corff gymaint â phosib. Bydd cadw'n heini’n rhyddhau endorffinau sy’n gwneud i chi deimlo’n dda.
  • Bwytewch yn iach hyd yn oed os nad oes awydd bwyd gyda chi.
  • Peidiwch ag yfed alcohol nac ysmygu. Mae hyn yn gallu niweidio eich babi a gwneud i chi deimlo'n waeth.
  • Darllenwch am gynllunio ar gyfer newidiadau emosiynol ar ôl genedigaeth.
  • Rhowch gynnig ar ymwybyddiaeth ofalgar neu ar dechnegau eraill o ymlacio. Rydyn ni’n cynnig gweithdai hypno-enedigaeth allai fod o gymorth i chi.

 

Dilynwch ni: