Neidio i'r prif gynnwy

Iselder

Iselder cyn-geni yw pan fyddwch chi'n teimlo'n drist drwy'r amser am wythnosau neu fisoedd yn ystod eich beichiogrwydd. Mae’r symptomau hyn yn gallu amrywio o fod yn rhai ysgafn i rai difrifol, ac maen nhw’n gallu effeithio ar fenywod mewn gwahanol ffyrdd.

Bydd rhai menywod yn cael iselder ar ôl cael babi. Enw hyn yw iselder ôl-enedigol

Mae hormonau beichiogrwydd yn gallu effeithio ar eich emosiynau. Mae’n bosib y byddwch chi’n cael trafferth wrth gysgu ac yn teimlo eich bod chi’n mynd i chwydu. Gall hyn i gyd wneud i chi deimlo'n isel.

Magwch hyder ynoch chi eich hun. Chi sy’n gwybod orau p'un a ydy eich teimladau’n arferol i chi ai peidio. Siaradwch â'ch bydwraig neu feddyg teulu os ydych chi’n credu bod unrhyw symptomau iselder gyda chi sy’n para am fwy na phythefnos.

Mae iselder yn gyflwr iechyd meddwl, nid yn wendid nac yn rhywbeth fydd yn diflannu ar ei ben ei hun neu y dylech chi ‘roi’r gorau iddi’. Mae modd trin iselder gyda'r gofal a'r cymorth cywir.

Dilynwch ni: