Fel arfer, mae triniaeth ar gyfer iselder yn gyfuniad o hunan-gymorth, therapïau siarad (fel cwnsela neu Therapi Gwybyddol Ymddygiadol) a moddion.
Mae pawb yn wahanol, felly mae’n bosib y bydd rhai triniaethau’n gweithio i rai pobl ond nid i bobl eraill. Bydd eich meddyg yn eich helpu i benderfynu pa opsiwn sydd orau i chi. Mae’n bosib y byddwch chi’n cael cynnig atgyfeiriad at y tîm iechyd meddwl amenedigol. Byddan nhw’n gallu eich monitro chi ymhellach a darparu cymorth ychwanegol yn ystod ac ar ôl eich beichiogrwydd.
Chi biau’r dewis o ran pa driniaeth byddwch chi’n ei chael. Bydd eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gallu eich helpu drwy siarad â chi am beth hoffech chi ei wneud ac esbonio risgiau a manteision pob opsiwn.