Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw symptomau iselder cyn-geni?

Dyma rai o arwyddion nodweddiadol o iselder:

  • hwyliau isel yn aml iawn
  • diffyg awydd gwneud pethau
  • methu canolbwyntio neu wneud penderfyniadau
  • methu mwynhau bywyd
  • crio
  • teimlo'n bigog a heb awydd bod yng nghwmni pobl eraill
  • teimlo'n aflonydd ac yn gynhyrfus
  • colli hunanhyder
  • teimlo'n ddiwerth
  • teimlo'n euog
  • meddwl am niweidio neu ladd eich hun

Mae’n bosib na fydd pob un o’r symptomau hyn gyda chi, ac efallai y byddan nhw’n dod yn raddol neu efallai y byddwch chi’n dechrau teimlo'n isel iawn yn sydyn.

Os ydych chi'n teimlo eich bod chi am niweidio eich hun neu'n teimlo eich bod chi am farw, mae'n bwysig dweud wrth rywun. Gallech chi ddweud wrth aelod o'r teulu, ffrind, eich meddyg teulu neu eich bydwraig. Mae cymorth ar gael nawr os bydd angen.

Dilynwch ni: