Neidio i'r prif gynnwy

Aros yn Dda am Gymorth Rheoli Pwysau Oedolion

Mae'r dudalen hon ar gyfer pobl sydd wedi cael eu hatgyfeirio at wasanaethau rheoli pwysau, neu sydd wedi hunan-gyfeirio eu hunain am gymorth rheoli pwysau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae amrywiaeth o ddolenni isod y gallai fod yn ddefnyddiol i chi ac yn eich cefnogi yn ystod eich taith rheoli pwysau. Os penderfynwch beidio â defnyddio unrhyw un o'r rhain, mae hynny'n iawn hefyd. Ni fydd yn newid pa mor gyflym y cewch eich gweld.

Rydym yn ceisio cadw ein rhestr aros mor gyfredol â phosibl. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n cysylltu â chi o bryd i'w gilydd i wirio a oes angen mewnbwn arnoch o hyd. Os byddwch yn newid eich cyfeiriad, e-bost neu rif ffôn, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at CTM.WeightManagement@wales.nhs.uk neu ffonio 01685 728590. Os nad oes angen gwasanaethau rheoli pwysau arnoch chi mwyach, rhowch wybod i ni a byddwn yn diweddaru ein rhestr aros.

Os oes angen cymorth arnoch gyda'ch pwysau a dydych chi ddim wedi’ch cofrestru neu wedi cael eich atgyfeirio at ein gwasanaethau eto, gofynnwch i'ch meddyg teulu eich atgyfeirio chi. (Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio ar system hunan-gyfeirio a byddwn yn gallu darparu manylion yn fuan).

Pennaeth Maeth a Dieteg BIP CTM

Gall ein tîm Sgiliau Maeth am Oes gynnig amrywiaeth o raglenni a gwybodaeth i gefnogi eich taith rheoli pwysau.

Pwysau Iach Iach Chi

Mae'n cynnig cymorth wedi'i deilwra yn seiliedig ar eich anghenion personol.

Rhaglenni y gallwch gyfeirio eich hun atynt

*yn amodol ar feini prawf cymhwyster.

Cymorth Iechyd Meddwl a Lles

Gall gwella eich iechyd meddwl ei gwneud yn haws i chi reoli eich pwysau.

Lles a Chefnogaeth Gorfforol

Cael cymorth i fod yn fwy egnïol.

Cymdeithas Ddeieteg Prydain

Gall taflenni Ffeithiau Bwyd BDA eich helpu i ddeall mwy am y bwyd rydych chi'n ei fwyta.

Dognau Bwyd

Canllaw dogn rhyngweithiol ac awgrymiadau defnyddiol i helpu i gadw'ch diet yn gytbwys o Sefydliad Prydeinig y Galon.

Dilynwch ni: