Neidio i'r prif gynnwy

Cyfeirio

Hoffem argymell ystod o wasanaethau ac asiantaethau a allai fod o fudd i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Merthyr Tudful

Hwb Helpu Cynnar

Ei nod yw cefnogi teuluoedd o fewn ardal Merthyr Tudful sydd â phlant 0-18 oed.

Gall hwb helpu cynnar gefnogi teulu i gael mynediad at y cymorth cywir ar gyfer eu hanghenion. Maen nhw’n darparu gwybodaeth a chymorth ynghylch:

  • Tai
  • Cyllid
  • Addysg
  • Iechyd a lles
  • Magu plant
  • Gweithgareddau cymunedol
  • Gofal plant a chwarae

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Hwb Helpu Cynnar ar 01685 725000 neu EarlyHelp.Hub@merthyr.gov.uk.
Hwb Helpu Cynnar Merthyr

 

Rhondda Cynon Taf

Teuluoedd Cydnerth

Nod y Gwasanaeth yw darparu gwell cymorth i deuluoedd mewn amseroedd ymateb cyflymach; asesiad diagnostig byrrach a chliriach; un pwynt cyswllt y gellir ymddiried ynddo a chymorth ymarferol rhagweithiol i ymgysylltu ag ymyriadau a gynlluniwyd i gynyddu lefelau gwydnwch.

Gellir gwneud atgyfeiriadau i’r Gwasanaeth drwy’r Tîm Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) yn y modd canlynol:

  • Gall teuluoedd hunangyfeirio ar gyfer Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth dros y ffôn (01443 425006

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth, cysylltwch â 01443 281435 neu rfs@rctcbc.gov.uk

Bydd yr holl atgyfeiriadau'n cael eu 'brysbennu' gan y Tîm IAA i'w dyrannu yn ôl risg/angen. Bydd atgyfeiriadau a dderbynnir gan y Tîm IAA nad ydyn nhw’n cyrraedd y trothwy Gwasanaethau Plant Cydnerth a ystyrir yn briodol ar gyfer ymyrraeth yn cael eu dyrannu i'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth. Bydd e-byst yn cael eu darllen yn ystod oriau swyddfa yn unig o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:30yb - 17:00yp.
 

YEPS

Mae YEPS yn cynnig mynediad i bobl ifanc 11-25 oed i amrywiaeth o weithgareddau AM DDIM ar draws nifer o ysgolion a lleoliadau ieuenctid. Mae'r rhain yn cynnwys gweithgareddau ar ôl ysgol a chlybiau ieuenctid. Ar hyn o bryd mae clybiau ieuenctid yn rhedeg rhwng 6pm ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fel person ifanc, gallwch gymryd rhan trwy weld eich gweithiwr YEPS mewn ysgolion, colegau, neu drwy'r wefan.
Mae YEPS yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifanc ar sail un i un (gwaith cyfeirio) a/neu sesiynau grŵp.

Cynigir darpariaeth a chefnogaeth YEPS trwy:

  • Gwaith ieuenctid yn yr ysgol
  • 16+ cefnogaeth benodol
  • Ymyriadau Iechyd Meddwl a Lles
  • Cyngor ac Arweiniad Digartrefedd
  • Gwaith trosiannol i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant
  • Sesiynau seiliedig ar hawliau
  • Gweithgareddau cymunedol gan gynnwys clybiau ieuenctid, fan ieuenctid symudol, sesiynau stryd, teithiau gwyliau ysgol a sesiynau galw heibio cymunedol

 

https://www.yeps.wales/cy/
 

Gofalwyr Ifanc

Prosiect Gofalwyr Ifanc RhCT 01443 425006youngcarerssupportteam@rctcbc.gov.uk
Pobl ifanc sy'n gofalu am aelod o'r teulu neu ffrind gyda salwch, anabledd, cyflyrau iechyd meddwl neu gaethiwed.

Pen-y-bont ar Ogwr

Hwb Helpu Cynnar

Mae’r Hybiau Helpu Cynnar yn wasanaeth ymyrraeth gynnar sy’n cynnig cymorth o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Gan weithio ochr yn ochr ag ystod eang o asiantaethau cymunedol a phartneriaeth lleol, mae’r tîm yn gallu teilwra cymorth i’r anghenion niferus y mae teuluoedd yn eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd, gan ddarparu cymorth tymor byr.

Gall Gweithwyr Cymorth weithio gyda rhieni, plant a phobl ifanc i ddod o hyd i’r atebion cywir iddyn nhw a’u teulu mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys:

  • Cyflwyno amrywiaeth o raglenni teulu seiliedig ar dystiolaeth yn uniongyrchol
  • Darparu cymorth a chefnogaeth ymarferol
  • Gweithredu fel gweithiwr allweddol i deulu
  • Cynghori ar ystod eang o wasanaethau yn y gymuned
  • Cwblhau Asesiadau Teuluol a chynlluniau cymorth

I gael mynediad at y cymorth o fewn yr Hybiau Helpu Cynnar, cysylltwch â’r Tîm Sgrinio Helpu Cynnar:
E-bost: Earlyhelp@bridgend.gov.uk / Ffôn: 01656 815420
 

Mental Health Matters Wales

Croeso i Mental Health Matters Wales (MHM Wales)

Mae Mental Health Matters yn darparu cefnogaeth iechyd emosiynol, lles i’r cyhoedd, trwy gynnig gwybodaeth, eiriolaeth, hyfforddiant a chefnogaeth.

Ffôn: 01656 767045

Cymorth ac Ymddygiad
Meddyliau Iach
Rhywioldeb, Rhywedd ac Iechyd Meddwl
Profedigaeth a Cholled
Ymosodiad Rhywiol
Hunan-Barch
Cam-Drin Domestig
Bwlio
Cwsg
Niwroamrywiaeth
Anghenion Addysg
Dilynwch ni: