Neidio i'r prif gynnwy

Pwynt Mynediad Sengl (SPOA)

Mae'r tîm yn gwasanaethu rhwydwaith BIP CTM.  Mae prif rolau’r tîm Pwynt Mynediad Sengl yn cynnwys ymgynghori, darparu cyngor i atgyfeirwyr ynghylch pryderon a allai fod ganddyn nhw am glaf neu unrhyw ymholiadau sydd ganddyn nhw ynghylch atgyfeirio. Mae'r tîm hefyd yn brysbennu ac yn sgrinio atgyfeiriadau a galwadau dyletswydd yn ddyddiol, gan ateb galwadau dyletswydd gan atgyfeirwyr neu deuluoedd yn ddyddiol, cyfeirio a darparu cyngor cynllun diogelwch os oes angen.

 


Atgyfeiriadau

Mae angen i bob atgyfeiriad i CAMHS gael ei wneud trwy Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol. Mae rhain yn cynnwys Meddygon Teulu, Gweithwyr Cymdeithasol, Pediatregwyr neu Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd. Mae CAMHS hefyd yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer sgrinio pellach gan Seicoleg Addysg.

Mae pob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda pherson ifanc yn gallu cysylltu â gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl CAMHS am ymgynghoriad cyn cyflwyno atgyfeiriad, naill ai drwy Borth Clinigol Cymru neu drwy’r post.

Mae’r tîm Pwynt Mynediad Sengl ar gael i drafod pryderon a rhoi cyngor a chymorth i deuluoedd a phobl ifanc. Mae pob galwad yn cael ei blaenoriaethu a'i dychwelyd o fewn 48 awr.

 

Oriau Gwaith
  • Dydd Llun i ddydd Gwener, 09:00am–17:00pm
  • Professional’s Line a Consultant Connect ar gael rhwng 08:00am a 18:00pm.
Dilynwch ni: