Neidio i'r prif gynnwy

Rhywioldeb, Rhywedd ac Iechyd Meddwl

Belong

Mae Belong (partneriaeth rhwng Youth Cymru a The Amber Project) yn darparu cefnogaeth, gweithdai a chwnsela i bobl ifanc draws, anneuaidd ac sy’n cwestiynu (12-25 oed) yng Nghaerdydd a hoffai gael cymorth gyda’u lles emosiynol.

Rydyn ni’n cynnal gweithdai creadigol mewn amgylchedd cyfeillgar, gofalgar a chefnogol. Mae gweithdai’n cael eu cynnal ar nos Iau yng nghanol Caerdydd; mae ein grŵp ar gyfer pobl ifanc 12-16 oed yn rhedeg 4:30-6pm, ac yna ein grŵp ar gyfer pobl ifanc 17-25 oed o 7:30-9pm.

Mae gan Belong wasanaeth cwnsela a chymorth hefyd.

Am ragor o wybodaeth, neu i wneud atgyfeiriad, cysylltwch â Julia Griffiths - Julia@youthcymru.org.uk
https://youthcymru.org.uk/cy/trawsnewid-cymru-3/
 

Gendered intelligence

Sefydliad sy’n cael ei arwain gan bobl draws ac sy’n cynnwys pobl draws gyda chyfoeth o brofiad, cysylltiadau cymunedol a gwybodaeth.
Cartref | Gendered Intelligence
 

Transwiki

Ymchwil ac addysg hunaniaeth rhywedd
Grwpiau yng Nghymru – – Y Gymdeithas Ymchwil ac Addysg Hunaniaeth Rhywedd – cyfeiriadur Tranzwiki

Dilynwch ni: