Os ydych chi wedi derbyn gofal arferol mewn deintyddfa GIG o fewn y 3 blynedd diwethaf, ac mae angen i chi wneud apwyntiad ar gyfer triniaeth arferol, cysylltwch â'ch deintyddfa yn uniongyrchol.
Os nad ydych chi wedi mynychu'r un deintyddfa yn rheolaidd fel claf y GIG, gallwch wneud cais am le ar-lein os:
ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn
nad ydych wedi cael triniaeth ddeintyddol arferol gan y GIG yng Nghymru yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
ydych chi'n byw mewn cyfeiriad ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf neu ardal awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr am fwy na chwe mis o'r flwyddyn neu wedi cofrestru gyda meddygfa yn yr ardal.
Gallwch ddefnyddio'r Porth Mynediad Deintyddol i wneud cais am le gyda deintydd y GIG fel unigolyn a gallwch ychwanegu rhywun arall, fel plentyn dan 16 oed. Gallwch hefyd wneud cais ar ran eraill, fel aelod o'r teulu, ffrind neu rywun rydych chi'n gofalu amdano neu sydd â pherthynas ddibynadwy ag ef.
Dylai eich deintyddfa blaenorol allu cynnig apwyntiad i chi os ydych chi wedi cael triniaeth gyda nhw yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Gwnewch gais am le gyda deintyddfa y GIG
Os ydych chi'n gymwys ac yn gwneud cais, byddwn yn cysylltu â chi pan fydd lle addas ar gael.
Os na allwch wneud cais ar-lein, gofynnwch i berthynas, ffrind neu ofalwr yn y lle cyntaf. Fel arall, gallwch anfon e-bost at ctm.dentalhelpline@wales.nhs.uk – rhaid i chi ddarparu'r holl wybodaeth ganlynol:
Enw llawn
Dyddiad Geni
Rhif y GIG - Gallwch ddod o hyd i'ch rhif GIG ar y rhan fwyaf o ddogfennau neu lythyrau sy’n cael eu hanfon atoch gan y GIG. Gallwch hefyd ddod o hyd iddo drwy'r ddolen hon https://www.nhs.uk/nhs-services/online-services/find-nhs-number/
Rhif ffôn cyswllt
Cyfeiriad post llawn gan gynnwys y cod post
Cyfeiriad e-bost
Enw Meddygfa
Pa mor bell ydych chi'n fodlon teithio
Os na allwch anfon e-bost at y tîm, ffoniwch 01685 351366 er mwyn i'ch manylion gael eu hychwanegu at y Porth Mynediad Deintyddol, rhaid i chi gael yr holl wybodaeth uchod wrth law er mwyn i'r tîm allu cynorthwyo. Byddwch yn ymwybodol bod y llinellau’n mynd yn brysur iawn ac felly efallai y bydd angen i chi aros i siarad ag aelod o’r tîm.
Sylwch mai dim ond ar gyfer cleifion yn ardal Cwm Taf Morgannwg y mae'r manylion uchod, os ydych chi'n byw mewn ardal Bwrdd Iechyd gwahanol bydd angen i chi gysylltu â'ch bwrdd iechyd lleol yn uniongyrchol, ni fydd eich e-bost yn cael ei ateb.
Os ydych chi'n teimlo y byddai'n anodd i chi gael mynediad at wasanaethau deintyddol cyffredinol gan ddeintyddfa, darllenwch y meini prawf ar gyfer y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol cyn ychwanegu eich enw at y DAP. Gellir dod o hyd i fanylion y gwasanaethau deintyddol cymunedol yma; Y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Os ydych wedi ychwanegu eich manylion at Restr Aros Deintyddol BIP CTM o’r blaen, nid oes angen i chi ychwanegu eich manylion at y Porth Mynediad Deintyddol, bydd y Bwrdd Iechyd yn ychwanegu eich manylion cyswllt ar eich rhan. Os ydych chi'n ansicr neu os yw eich manylion wedi newid ers i chi ychwanegu eich manylion cyswllt at restr aros y Bwrdd Iechyd, anfonwch e-bost at ctm.dentalhelpline@wales.nhs.uk Sylwch y bydd angen i chi ddarparu eich enw llawn, dyddiad geni, Rhif GIG, rhif ffôn a chyfeiriad cartref er mwyn i'r tîm allu cynorthwyo.