Croeso i’r dudalen cymorth cymunedol! Nod y dudalen hon yw codi ymwybyddiaeth ymhlith ein staff a’n preswylwyr o’r cymorth sydd ar gael yn ardal Cwm Taf Morgannwg yn ystod pandemig COVID-19.
Ar y dudalen hon mae modd dod o hyd i’r canllawiau cenedlaethol perthnasol ond, yn bwysicach na hynny, mae manylion yno am y sefydliadau sy’n cynnig cymorth i’n preswylwyr ar lefel fwy lleol. Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru pan fydd gwybodaeth newydd neu wybodaeth ychwanegol ar gael felly gwiriwch hi’n rheolaidd i gael diweddariadau!