Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth iechyd meddwl yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19: Atebion i'ch cwestiynau

Mae gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru wedi parhau i fod ar gael drwy gydol pandemig COVID-19, gyda mesurau ar waith i atal y feirws rhag lledaenu ac i’ch cadw chi, eich anwyliaid a'n staff yn ddiogel.

P'un a ydych chi eisoes yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl neu’n ceisio cymorth am y tro cyntaf, mae atebion i gwestiynau cyffredin isod.

Mae'r cwestiynau cyffredin hyn yn nodi pa gymorth iechyd meddwl cyffredinol y gallwch ei ddisgwyl, ble bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru. Mae gwybodaeth am y cymorth pellach sydd ar gael yn eich ardal leol wedi ei chynnwys hefyd, lle bo hynny'n berthnasol.

Cwestiynau cyffredin i blant a phobl ifanc

  • Cliciwch yma os ydych chi’n iau na 18 oed, neu'n aelod o'r teulu neu'n ofalwr i rywun o dan 18 oed, sy'n ceisio cael cymorth iechyd meddwl am y tro cyntaf.
  • Cliciwch yma os ydych chi’n iau na 18 oed, neu'n aelod o'r teulu neu'n ofalwr i rywun o dan 18 oed, sydd eisoes yn cael cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl.

Cwestiynau cyffredin i oedolion

  • Cliciwch yma os ydych chi’n hŷn na 18 oed, neu'n aelod o'r teulu neu'n ofalwr i rywun dros 18 oed, sy'n ceisio cael cymorth iechyd meddwl am y tro cyntaf.
  • Cliciwch yma os ydych chi’n hŷn na 18 oed, neu'n aelod o'r teulu neu'n ofalwr i rywun dros 18 oed, sydd eisoes yn cael cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl.

 

Dilynwch ni: