Neidio i'r prif gynnwy

Adnoddau Lles

Sut wyt ti?

Mae hi’n adeg ansicr. Ydych chi’n llwyddo i wneud y canlynol: Cadw mewn cysylltiad â phobl? Cadw’n iach yn gorfforol? Gofalu am eich lles meddyliol?

Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn dod o hyd i gymorth a chyngor o ran gofalu am eich hun ac am eich anwyliaid.     

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo’n unig weithiau, am wahanol resymau.

Ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod (sy’n hunan-ynysu gartref neu yn yr ysbyty) yn teimlo’n unig?

Os yw unigrwydd yn effeithio ar eich bywyd chi, gall ein gwirfoddolwyr eich helpu ac maen nhw ar gael i siarad â chi.

Hoffech chi gael gwirfoddolwr i gysylltu â chi am sgwrs?

Os felly, ffoniwch 01656 753783 i drefnu galwad. Neu, os byddai’n well gyda chi, cysylltwch â CTUHB_Volunteering@wales.nhs.uk.

Rydyn ni’n aros i glywed gennych chi.

Mae amrywiaeth o weithgareddau cymorth a gwirfoddoli yn cael eu cydlynu yn ein cymunedau i’r rheiny sy’n unig ac yn ynysu ac sydd angen ein cymorth ni yn ystod y pandemig COVID-19. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:

Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful

Interlink (yn Rhondda Cynon Taf)

Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO)

Gwasanaeth Gwirfoddolwyr Cwm Taf Morgannwg. E-bostiwch CTUHB_Volunteering@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01656 753783 i adael neges i aelod o’r Tîm Gwasanaethau Gwirfoddol a bydd rhywun mewn cysylltiad cyn gynted â phosibl.

O ganlyniad i’r nifer syfrdanol o gynigion cymorth mae’r Bwrdd Iechyd wedi eu derbyn, rydyn ni wedi sefydlu’r rhestr ganlynol er mwyn hwyluso’r gwaith o ddelio ag ymholiadau cynnig cymorth.

I weithwyr iechyd proffesiynol neu staff sydd wedi ymddeol sy’n ystyried dychwelyd dros dro, ffoniwch y Banc Staff ar 01685 726900 neu e-bostiwch CTT_staffbankrecruitment@wales.nhs.uk.

I gynnig gwirfoddoli, rhoddion, llety, trafnidiaeth ac ati, e-bostiwch CTUHB_volunteering@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01656 753783 er mwyn gadael neges. Bydd aelod o’r Tîm Gwasanaeth Gwirfoddolwyr yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

Sefydliadau allanol - Rydyn ni’n croesawu cynigion o wasanaethau neu gefnogaeth gan sefydliadau allanol drwy e-bostio CTM_SupportOffersReq@wales.nhs.uk.

Amazon Wish List – Os hoffech chi roi eitemau i gefnogi ein cleifion trwy’r adegau heriol hyn pan nad oes modd iddyn nhw dderbyn ymweliadau na chyflenwadau gan eu teuluoedd, bydden ni’n gwerthfawrogi eich rhoddion drwy ymweld â Amazon Wish List BIP CTM. Mae’r rhestr hon yn cynnwys dillad nos, dillad isaf, deunydd ymolchi, posau jig-so, llyfrau pos ayyb.

Facebook NHS Kindness Wish Lists – Dyma fenter sy’n cael ei rhedeg yn annibynnol o’r Bwrdd Iechyd gan wirfoddolwyr.  Dyma ffordd wych o roi eitemau penodol i wardiau ac adrannau’r GIG ledled y De.

Tudalen JustGiving - Os hoffech chi roi arian i’n helpu i brynu eitemau i gefnogi ein staff sy’n gweithio’n ddiwyd ac i’n cleifion, rydyn ni’n croesawu rhoddion yn fawr iawn ar ein tudalen JustGiving BIP CTM. Nodwch os gwelwch yn dda fod y rhodd i gefnogi staff yn ystod COVID-19.

Diolch am eich cymorth parhaus i’r Bwrdd Iechyd a’r GIG.

Rhagor o wybodaeth ynglŷn â Gwasanaethau Profedigaeth

Rydyn ni’n cynnal clinigau drwy apwyntiad ar hyn o bryd yn Ysbyty Dewi Sant.

Os oes angen cymorth arnoch chi, ffoniwch ein llinell frysbennu: 01443 443836
(9:30am – 7:00pm, Dydd Llun - Dydd Iau. 9:30am – 3:00pm, Dydd Gwener).

Dilynwch ni: