Neidio i'r prif gynnwy

Endometriosis ac Adenomyosis

Menyw yn dal ei bol mewn poen

Croeso i safle Endometriosis BIP CTM.

Rydym yn cydnabod nad yw gofal menywod ag Endometriosis (Endo) yng Nghymru eto ar y safon yr hoffem ac rydym yn ymdrechu i wella hyn. Rydym yn ddyledus i waith FTWW, Endometriosis UK a menywod y grŵp cymorth lleol am eu hymgyrchu di-baid i wella'r ddarpariaeth gofal ac i sicrhau bod lleisiau menywod ag Endometriosis yn cael eu clywed.

Os ydych chi'n profi symptomau endometriosis, neu'n credu y gallai eich symptomau fod yn gysylltiedig ag ef, rydym yn eich annog yn gryf i drefnu apwyntiad gyda'ch meddyg teulu. Gall trafodaeth gynnar helpu i sicrhau eich bod yn derbyn y gefnogaeth a'r gofal priodol..

Yn ystod eich apwyntiad, bydd eich meddyg teulu yn gallu asesu eich symptomau a thrafod camau nesaf posibl, gan gynnwys atgyfeiriad ymlaen i'n Canolfan Iechyd Menywod am gymorth arbenigol pellach

Arwyddion a symptomau
Ein Tîm
Gwybodaeth a Chyngor Pellach
Cysylltwch â Ni
Dilynwch ni: