Neidio i'r prif gynnwy

Pwyllgor Iechyd y Boblogaeth a Phartneriaethau

Diben Pwyllgor Iechyd y Boblogaeth a Phartneriaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yw:

Ymgorffori gwerthoedd ein Bwrdd Iechyd a’r amcanion sydd wedi eu nodi yn ei Gynllun Tymor Canolig Integredig, sef:

  • Gwella ansawdd, diogelwch a phrofiad cleifion.
  • Diogelu a Gwella iechyd y boblogaeth.
  • Sicrhau bod y gwasanaethau sy’n cael eu darparu’n hygyrch ac yn gynaliadwy tua’r dyfodol.
  • Darparu llywodraethiant a sicrwydd cryf.
  • Sicrhau gofal a thriniaeth o werth da i’n cleifion yn unol â’r adnoddau sydd ar gael i’n Bwrdd Iechyd.

Bydd y Pwyllgor yn gwneud y canlynol:

  • Yn rhoi anghenion cleifion, gofalwyr a’r cyhoedd wrth graidd ei holl waith.
  • Yn sicrhau trefniadau priodol i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu a gweithredu Cynllun Darparu Gofal Sylfaenol a Chymunedol sy’n cyd-fynd â’r cyfeiriad sydd wedi ei nodi yn y Cynllun Tymor Canolig Integredig.
  • Yn darparu cyngor amserol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’r Bwrdd ar sail angen lleol er mwyn helpu i gyflawni ei swyddogaethau a’i gyfrifoldebau.
  • Yn darparu sicrwydd i’r Bwrdd mewn perthynas â threfniadau’r BIP ar gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol.
  • Yn sicrhau bod gofal sylfaenol a chymunedol yn cael ei ddarparu yn unol â’r Safonau Iechyd a Gofal ar gyfer Gwasanaethau Iechyd yng Nghymru.

Cadeirydd y Pwyllgor:
Carolyn Donoghue, Aelod Annibynnol (cadeirydd)

Aelodau Annibynnol y Pwyllgor:
(Swydd Gwag) (Is-gadeirydd)
Ian Wells
Rachel Rowlands
Kath Palmer

Cyfarwyddwr Arweiniol:
Gethin Hughes, Prif Swyddog Gweithredu 
Linda Prosser, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid

Ysgrifenyddiaeth:
Kathrine Davies, Rheolwr 
Kathrine.davies2@wales.nhs.uk - 01443 744800.

Mae holl fanylion rôl y Pwyllgor yn y Cylch Gorchwyl.

 

Papurau Cyfarfod Pwyllgor Iechyd Boblogaeth a Phartneriaethau

Cliciwch yma i weld Papurau Cyfarfod y Pwyllgor Iechyd Boblogaeth a Phartneriaethau

Cofnodion Cyfarfod

Cliciwch yma i weld cofnodion Cyfarfodydd y Pwyllgor Iechyd Boblogaeth a Phartneriaethau
 

Dyddiadau Cyfarfod Pwyllgor Iechyd y Boblogaeth a Phartneriaethau 2024
Dyddiadau Cyfarfod Pwyllgor Iechyd Boblogaeth a Phartneriaethau 2024

7 Mawrth 2024

20 Mai 2024

1 Awst 2024

13 Tachwedd 2024