Rôl Pwyllgor Archwilio a Risg Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yw rhoi cyngor a sicrwydd i’r Bwrdd ynghylch y trefniadau effeithiol sydd ar waith – trwy ddylunio a gweithredu system sicrwydd y Bwrdd Iechyd – er mwyn ei helpu i wneud penderfyniadau a chyflawni ei ddyletswyddau er mwyn cyflawni amcanion y Bwrdd Iechyd yn unol â’r safonau llywodraethu da a bennwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru.
Mae system reoli mewnol y sefydliad wedi cael ei dylunio i nodi’r risgiau posib allai atal BIP Cwm Taf Morgannwg rhag cyflawni ei nodau ac amcanion. Mae’n gwerthuso’r tebygolrwydd y bydd risgiau’n cael eu gwireddu, yn ystyried yr effaith pe baen nhw’n digwydd ac yn ceisio eu rheoli nhw’n effeithlon, yn effeithiol ac yn economaidd. Pan fydd yn briodol, bydd y pwyllgor yn rhoi cyngor i’r Bwrdd a’r Swyddog Atebol ynghylch lle mae’n bosib atgyfnerthu’r fframwaith sicrwydd a’i ddatblygu ymhellach yn ogystal â sut mae’n bosib gwneud hynny.
Cadeirydd y Pwyllgor:
Patsy Roseblade, Aelodau Annibynnol
Aelodau Annibynnol y Pwyllgor:
Ian Wells (Is-gadeirydd)
Geraint Hopkins
Kath Palmer
Cyfarwyddwyr Arweiniol:
Gareth Watts, Cyfarwyddwr Llywodraethu / Ysgrifennydd y Bwrdd (Gwag)
Sally May, Cyfarwyddwr Cyllid a Chaffael
Ysgrifennydd:
Kathrine Davies, Rheolwr Llywodraethu Corfforaethol
Kathrine.Davies2@wales.nhs.uk - 01443 744800.
Mae holl fanylion rôl y Pwyllgor Archwilio a Risg yn y Cylch Gorchwyl.
Papurau Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Risg
Cliciwch yma i weld Papurau Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Risg
Cofnodion Cyfarfod
Cliciwch yma i weld cofnodion Cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg
Dyddiadau Cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Risg 2024 |
---|
22 Chwefror 2024 |
18 Ebrill 2024 |
20 Mehefin 2024 |
10 Gorffennaf 2024 - Cyfarfod Cyffredin Ychwanegol |
15 Awst 2024 |
17 Hydref 2024 |
17 Rhagfyr 2024 |