Mis Ymwybyddiaeth Straen yw'r amser perffaith i lansio ‘WISE Approach Podcast' wrth i ni archwilio nifer o dechnegau meddyginiaeth ffordd o fyw sy'n seiliedig ar dystiolaeth i hyrwyddo lles corfforol ac emosiynol hirdymor, sydd yn y pen draw yn helpu i leihau straen.
Straen yw’r ymateb naturiol i sefyllfaoedd heriol a ddaw yn sgil bywyd modern, ond o’i adael heb ei reoli, gall effeithio ar ein hiechyd corfforol a meddyliol.
Fodd bynnag, trwy dechnegau meddygaeth ffordd o fyw a arweinir gan hyfforddwyr a hyrwyddir gan WISE, gall unigolion leddfu baich straen ar eu hiechyd corfforol a meddyliol yn raddol dros amser.
Trwy fynd i'r afael ag achosion sylfaenol a grymuso unigolion i feithrin cadernid, nod WISE yw arwain unigolion tuag at ffordd iachach o fyw sy'n gallu lleihau straen.
Yn WISE, rydym yn credu mewn cymryd dull gyfannol at reoli straen, gan fynd i'r afael nid yn unig â'r symptomau ond hefyd yr achosion sylfaenol. Mae ein gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan hyfforddwyr wedi'u teilwra i ddiwallu'ch anghenion unigol a'ch grymuso i gymryd rheolaeth o'ch straen.
Cysylltiad Cymdeithasol: Mae WISE yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiad cymdeithasol wrth leihau straen a hyrwyddo lles. Mae ein hyfforddwyr yn darparu cefnogaeth ac arweiniad i'ch helpu i feithrin cysylltiadau ystyrlon ag eraill ac adeiladu rhwydwaith cymorth pwrpasol.
Symud yn Gorfforol: Mae ymarfer corff yn arf pwerus ar gyfer rheoli straen, rhyddhau tensiwn, a gwella hwyliau. Mae hyfforddwyr WISE yn gweithio gyda chi i ymgorffori gweithgarwch corfforol yn eich trefn ddyddiol, gan eich helpu i elwa ar fanteision ymarfer corff rheolaidd i leihau straen.
Lles Meddyliol: Mae cynnal lles meddyliol yn hanfodol ar gyfer rheoli straen yn effeithiol. Mae ein Hyfforddwyr WISE yn cynnig strategaethau ar gyfer gwella cadernid, ymdopi â straen, a meithrin meddylfryd cadarnhaol i gefnogi eich iechyd meddwl cyffredinol.
Bwyta’n Iach: Mae Bwyta'n Iach yn chwarae rhan arwyddocaol mewn rheoli straen, gan fod rhai bwydydd a maetholion yn dylanwadu ar hwyliau a lefelau straen. Mae hyfforddwyr WISE yn darparu arweiniad maeth i'ch helpu i wneud dewisiadau bwyd iachach a chefnogi eich lles cyffredinol.
Lleihau Sylweddau Niweidiol: Gall defnyddio sylweddau waethygu straen a chyfrannu at ganlyniadau iechyd negyddol. Mae ein hyfforddwyr WISE yn cynnig cymorth a strategaethau ar gyfer lleihau’r defnydd o sylweddau a gwneud dewisiadau ffordd o fyw iachach i leihau straen a gwella llesi cyffredinol.
Hunan-reolaeth: Mae grymuso unigolion â sgiliau hunan-reoli yn elfen graidd o ddull WISE o reoli straen. Mae ein hyfforddwyr yn eich helpu i ddatblygu strategaethau ymdopi personol, technegau ymlacio, ac arferion ymwybyddiaeth ofalgar i reoli straen yn effeithiol ac adeiladu cadernid.
Edrychwch ar ‘WISE’s Health App Library’, sy’n cael ei chynnal gan OrCHA, lle gallwch lawrlwytho nifer o apiau Rheoli Straen i'ch dyfais symudol : Cwm Taf Morgannwg (orchahealth.com)
Am ragor o wybodaeth e-bostiwchCTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451