Ers miloedd o flynyddoedd, rydyn ni’n gwybod bod y bwyd rydyn ni'n ei fwyta’n gallu effeithio ar ein hiechyd. 'Bydded bwyd yn feddyginiaeth a'ch meddyginiaeth yn fwyd' – dyna un o ddyfyniadau enwog Hippocrates, y mae llawer o bobl yn ei ystyried yn dad ar feddygaeth fodern.
Sawl blynedd yn ddiweddarach, dywedodd Thomas Edison, 'Ni fydd meddyg y dyfodol yn rhoi unrhyw feddyginiaeth, ond bydd yn ennyn diddordeb ei gleifion yng ngofal y ffrâm ddynol, y deiet a sut mae achosi ac atal clefydau'. Wrth gwrs, dyna beth yw ein diben ni yma yn WISE!
Rhaid i mi bwysleisio ein bod ni’n dal i gredu'n gryf mewn manteision moddion, felly os ydy eich meddyg neu ymarferydd gofal iechyd cymwysedig arall yn argymell hynny, dilynwch eu cyngor. Fodd bynnag, mae bwyd wir yn gallu ein niweidio neu ein hiachau, yn dibynnu ar ein dewisiadau.
Mae tystiolaeth dda bod deiet gwael yn cyfrannu'n fawr at glefyd y galon, Diabetes, sawl math o ganser, problemau gyda'r coluddyn a llawer o gyflyrau eraill, a bod dilyn deiet iachus yn gallu atal y cyflyrau hyn, arafu eu datblygiad os ydy’r cyflyrau hyn gyda chi eisoes, ac weithiau hyd yn oed eu gwrthdroi.
Yn yr un modd, os ydych chi neu anwylyd yn dioddef y cyflyrau hyn, nid hon yw'r adeg i ddechrau teimlo'n euog. Mae llawer o ffactorau’n cyfrannu at y pethau hyn, a dim ond un ohonyn nhw yw deiet.
Fodd bynnag, mae cymaint o wybodaeth a chamwybodaeth yn bodoli. Mae pawb yn honni eu bod nhw’n arbenigwr, ac mae'n arbennig o anodd gwybod pwy i'w gredu pan fydd hi’n amlwg iawn mewn llenyddiaeth feddygol ac ar y cyfryngau cymdeithasol fod hyd yn oed yr arbenigwyr go iawn mewn maeth yn dal i anghytuno â’i gilydd!!
Beth ddylech chi ei fwyta felly? Wel, mae'r holl arbenigwyr yn cytuno ar rai pethau, a diolch byth, maen nhw’n weddol hawdd i'w dilyn ar y cyfan. Yn gyffredinol, y newyddion da yw bod y pethau sy'n gweithio ar gyfer clefyd y galon hefyd yn gweithio ar gyfer Diabetes, sydd hefyd yn gweithio ar gyfer problemau'r coluddyn, ac yn y blaen.
Gan amlaf, mae'n ymddangos bod deiet iach ar y cyfan yn helpu i wella ein hiechyd, beth bynnag fo'r union broblem rydyn ni’n ceisio delio â hi. Mae llawer mwy i hyn na hynny, a dyna pam mae'r arbenigwyr yn parhau i ddadlau’n gryf a pham mae miliynau'n cael eu gwario ar ymchwil yn y maes cyffredinol hwn.
Os ydych chi wedi cael cyngor penodol gan ddeietegydd ynglŷn â’ch deiet sy'n ymwneud â'ch cyflwr, yna dilynwch hwnnw, ond dyma ambell beth syml gallwch chi ei wneud:
Mae cymaint mwy o bethau i ysgrifennu amdanyn nhw ynglŷn â’r pwnc hwn, ond bydd unrhyw un sy'n dilyn y pum prif awgrym hyn eisoes yn gwneud byd o les i’w hunain er mwyn cadw eu hunain yn iach. Nid dwyn oddi arnoch chi yw’r bwriad fan hyn. Y nod yw dod o hyd i fwyd iach rydych chi'n ei garu a chael trît bach o bryd i’w gilydd wrth gwrs.
Y pethau rydych chi’n ei wneud ar gyfartaledd sy’n bwysig. Fydd pryd o fwyd afiach nawr ac yn y man ddim yn gwneud gwahaniaeth mawr yn yr hirdymor.
Awdur: Sue Kenneally