Yn y byd modern heddiw, lle mae diffyg ymarfer corff yn dod yn fwy cyffredin, gall cynnwys symud corfforol syml fel cerdded i mewn i'n harferion dyddiol wella iechyd a lles cyffredinol, gan ei wneud yn gam pwerus tuag at fywyd iachach a hapusach.
P’un a ydych yn cerdded o amgylch eich cartref neu gymdogaeth neu’n mynd am dro hamddenol drwy’r parc neu ar y stryd fawr, mae cerdded yn darparu llawer o fanteision iechyd i bobl o bob oed a lefel ffitrwydd.
Mae cerdded yn rheolaidd yn gwella iechyd cardiofasgwlaidd, yn helpu i reoli pwysau, yn cryfhau cyhyrau ac esgyrn, ac yn gwella iechyd y cymalau. Mae hefyd yn rhoi hwb i les meddyliol trwy leihau symptomau gorbryder, iselder a blinder meddwl.
WISE a Get Fit Wales – Cam tuag at well iechyd.
Gyda’r Mis Cerdded Cenedlaethol wedi hen ddechrau, mae’n gyfle perffaith i dynnu sylw at ein partneriaeth â Get Fit Wales sydd â rhaglen gamau arloesol sy’n cynnwys cerdded fel un o’r ffyrdd hawsaf o wella ein hiechyd a chadw mewn cysylltiad â’n cymuned.
Beth yw Get Fit Wales?
Mae Get Fit Wales yn rhaglen gam arloesol yn seiliedig ar dargedau sydd wedi'i dylunio i wobrwyo pobl am gadw'n heini a mabwysiadu ffyrdd iachach o fyw.
Trwy gysylltu proffil unigolyn â'i draciwr cam fel cyfrif FitBit, mae cyfranogwyr yn ennill pwyntiau yn seiliedig ar faint o gamau mae wedi ei gymryd a gwneud. Y nod yw annog cyfranogwyr i gyrraedd y targed sy’n cael ei hargymell gan NHS Choices o 10,000 o gamau'r dydd.
Yna gellir trosi’r pwyntiau sy’n cael ei gasglu drwy gwblhau ymchwil yn dalebau y gellir eu defnyddio mewn busnesau ledled Cwm Taf Morgannwg, fel siopau ffrwythau a llysiau, campfeydd a dosbarthiadau ffitrwydd, barbwyr, siopau trin gwallt a llawer mwy.
Effaith ar y Gymuned ac Ymgysylltiad Parhaus
Mae’r data wedi dangos bod cyfranogwyr yn rhaglen Get Fit Wales nid yn unig yn cynyddu eu gweithgarwch corfforol ond hefyd yn dangos awydd cryf i barhau i ddefnyddio gwasanaethau iechyd lleol hyd yn oed ar ôl i’r prosiect ddod i ben. Mae'r ymgysylltu parhaus hwn yn amlygu effaith barhaus y rhaglen ar iechyd unigolion a chymunedol.
Cofrestrwch ar gyfer Get Fit Wales drwy raglen WISE
Mae grymuso unigolion â sgiliau hunan-reoli yn ganolog i ymagwedd WISE at les corfforol a meddyliol. Mae ein cyrsiau yn eich cefnogi i ymgorffori gweithgarwch corfforol rheolaidd yn eich trefn ddyddiol ac mae menter Get Fit Wales yn un o'r opsiynau. Mae hyn yn ategu elfennau lles eraill sy’n cael eu dysgu ar ein cyrsiau fel cwsg, cysylltiad cymdeithasol, lles meddwl, bwyta'n iach a lleihau sylweddau niweidiol.
Archwiliwch ein Llyfrgell Apiau Iechyd, sy'n cael ei chynnal gan OrCHA, ar gyfer gwahanol gymwysiadau rheoli iechyd i gefnogi'ch taith: https://ctmwise.orchahealth.com/en-GB . I gael rhagor o wybodaeth am Get Fit Wales a sut i ymuno â Rhaglen WISE, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451.