I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae WISE yn canolbwyntio ar y Menopos ac yn taflu rhywfaint o oleuni ar arferion hunanofal, syniadau ar gyfer dewisiadau ffordd o fyw iach, a sut i ofyn am gymorth gan weithwyr meddygol proffesiynol.
Wrth i fenywod heneiddio, gallan nhw brofi symptomau sy'n digwydd yn ystod y newid i'r menopos. Gall y symptomau hyn, a all ddechrau mor gynnar â chanol eu tridegau, amrywio o ysgafn i ddifrifol a gallan nhw gynnwys pyliau poeth, chwysu yn y nos, aflonyddwch cwsg, sychder yn y wain, a hwyliau ansefydlog.
Does dim un ffordd o reoli'r symptomau hyn sy’n addas i bawb, ond gall gwneud rhai newidiadau i'ch ffordd o fyw roi rhywfaint o ryddhad.
Mae cynnwys arferion iach yn eich bywyd bob dydd yn allweddol i reoli'r symptomau sy'n gysylltiedig â chyfnod pontio’r perimenopos.
Gall bwyta deiet cytbwys sy'n cynnwys amrywiaeth o lysiau, ffrwythau, proteinau heb lawer o fraster, a grawn cyflawn helpu i leihau symptomau. Gall cyfyngu ar fwydydd wedi'u prosesu, carbohydradau wedi’u prosesu, siwgrau wedi'u puro a brasterau afiach fod yn fuddiol hefyd. Yn ogystal, mae hydradu digonol yn bwysig i helpu gyda phyliau poeth a chwysu yn y nos.
Mae ymarfer corff yn ffordd wych o reoli symptomau’r perimenopos. Gall gweithgaredd corfforol rheolaidd helpu i leihau straen, gwella hwyliau, ac adfer lefelau egni. Mae ymchwil yn awgrymu bod menywod sy'n gwneud ymarfer corff o leiaf deirgwaith yr wythnos yn chwysu yn y nos ac yn cael pyliau poeth yn llai aml a’u bod yn llai difrifol. Gall ymarfer corff hefyd helpu i wella ansawdd cwsg, sy'n arbennig o bwysig yn ystod cyfnod pontio’r perimenopos.
Mae rheoli straen yn agwedd bwysig arall ar reoli symptomau’r perimenopos. Gall straen waethygu symptomau fel pyliau poeth, chwysu yn y nos, a hwyliau ansefydlog. Gall rhai gweithgareddau sy’n lleihau straen, fel ioga, tai chi, a myfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar, helpu i leihau straen a gwella lles cyffredinol.
Mae cyflawni ffordd iach o fyw yn ystod cyfnod pontio’r perimenopos yn gofyn am ymrwymiad i wneud rhai newidiadau penodol i ffordd o fyw.
Trwy wneud y newidiadau hyn i'ch ffordd o fyw, gallwch chi leihau difrifoldeb symptomau’r perimenopos a gwella'ch lles cyffredinol yn ystod y cyfnod pontio i'r menopos.
Awdur: Dr Liza Thomas-Emrus
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm
Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE