Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos y Gwirfoddolwyr

Wythnos y Gwirfoddolwyr

Diolch i holl wirfoddolwyr WISE

Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn gyfle gwych i ddweud diolch a hyrwyddo a dathlu effaith gadarnhaol gwirfoddolwyr mewn unrhyw sefydliad. 

Rydyn ni’n hynod o falch o fod wedi gweithio’n agos gyda thîm y Gwasanaeth Gwella Lles (WISE) ac yn ddiolchgar am y cyfle i fod yn rhan o wasanaeth newydd.

Nod WISE yw darparu ymyriadau anfeddygol i wella iechyd a lles pobl tra eu bod nhw ar restrau aros, ac mae'n rhan o Raglen Gofal wedi'i Gynllunio GIG Cymru.  

Mae'r gwasanaeth yn galluogi cleifion i ddeall gwreiddiau eu cyflyrau meddygol yn well, a dewis ffyrdd o fyw sy'n gwella eu hiechyd hirdymor. 

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno drwy sesiynau dosbarth a sesiynau ar-lein.

Bydd Gwirfoddolwyr WISE gerllaw i roi cymorth i’r cyfranogwyr ynghyd â chyflawni tasgau ychwanegol fel:

  • Ysgrifennu ar ran cleifion
  • Helpu gyda thrafodaethau grŵp
  • Cynnig clust i wrando i’r cyfranogwyr ynglŷn â gwahanol elfennau o ddeunydd y cwrs
  • Helpu’r hyfforddwyr i ddosbarthu taflenni gwaith yn y sesiynau dosbarth
  • Rhoi cyngor digidol i’r cyfranogwyr yn y sesiynau ar-lein.

Mae ein gwirfoddolwyr yn edrych ymlaen at fod yn rhan o'r ffrwd waith newydd hon, a byddan nhw’n rhan allweddol o’i chyflwyno ac wrth ddatblygu cymorth gan gymheiriaid.

“Dod ynghyd yw’r dechrau, cadw gyda’n gilydd yw’r cynnydd a gweithio gyda’n gilydd yw’r llwyddiant.”

Am fwy o wybodaeth, ewch i volunteersweek.org


Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WISE@wales.nhs.uk neu ffoniwch ni ar 01685 351 451/01685 351 444. Ewch i'n gwefan: bipctm.gig.cymru/wise-ctm

Cofrestrwch ar gyfer Gwasanaeth WISE

Gwirfoddolwyr Dychwelyd at Les