Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarth 1: Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Mae’r wybodaeth ganlynol yn yr adran hon:

  • Ble ydym ni yn strwythur y GIG?
  • Gwybodaeth sefydliadol
  • Rhestrau o sefydliadau allweddol y mae’r awdurdod yn cydweithio â nhw yn ogystal â gwybodaeth amdanynt
  • Staff uwch ac aelodau o’r Bwrdd
  • Lleoliadau a manylion cyswllt pob adran sy’n ymwneud â’r cyhoedd

 

Ble ydym ni yn strwythur y GIG?

Gallwch chi gael gwybodaeth gyffredinol am y Bwrdd Iechyd ar y tudalennau Amdanom Ni. Cafodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf ei ffurfio ar 1 Hydref 2009 fel rhan o’r broses o ailstrwythuro GIG Cymru. Ar 1 Ebrill 2019, newidiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ei enw. Bellach, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yw ei enw wedi iddo gymryd cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae rhagor o wybodaeth am strwythur y sefydliad ar wefan Iechyd yng Nghymru.

 

Gwybodaeth sefydliadol

Mae rhagor o wybodaeth am y sefydliad ar y dudalen Amdanom Ni.

Mae nifer o is-bwyllgorau yn adrodd i’r Bwrdd. Mae'r pwyllgorau hyn yn darparu'r strwythur llywodraethu ac atebolrwydd o fewn y sefydliad.

 

Rhestrau o sefydliadau allweddol y mae’r awdurdod yn cydweithio â nhw yn ogystal â gwybodaeth amdanynt

Mae hanes hir gyda’r Bwrdd Iechyd o weithio mewn partneriaeth ac mae’n cydnabod y gwerth y mae’n ei ychwanegu at yr agenda a rennir, sef atal iechyd gwael a darparu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a lles. Er mwyn mynd i’r afael ag achosion iechyd gwael yn ein cymunedau a chael yr effaith fwyaf, rhaid i’r BIP weithio gyda’i bartneriaid i ddarparu gwasanaethau di-dor. Rhaid i’n gwaith partneriaeth ganolbwyntio’n glir ar gydflaenoriaethau sy’n cyflawni canlyniadau gwirioneddol er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwneud y mwyaf o gyfraniad pob sector, yn ogystal â chyfraniad dinasyddion, cleifion a gofalwyr.

Mae’r BIP yn parhau i atgyfnerthu’r trefniadau hyn, gan gydweithio gydag awdurdodau lleol, sefydliadau yn y trydydd sector, staff, ymarferwyr annibynnol a phartneriaid allweddol eraill.

Mae enghreifftiau diweddar o weithio mewn partneriaeth i’w gweld yn ein Hadroddiadau Blynyddol.

 

Staff uwch ac aelodau o’r Bwrdd

Mae enwau, teitlau a bywgraffiadau byr (lle y bo rhai ar gael) ein staff uwch ac aelodau o’r Bwrdd ar gael ar y dudalen Aelodau o'r Bwrdd.

 

Lleoliadau a manylion cyswllt pob adran sy’n ymwneud â’r cyhoedd

Mae cyfeiriadau a manylion cyswllt pob un o’n hadrannau sy’n ymwneud â’r cyhoedd ar gael ar y tudalennau canlynol:

Dilynwch ni: