Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarth 3: Pa flaenoriaethau sydd gennym ni a pha mor llwyddiannus ydym ni

gerau a siartiau

Mae’r wybodaeth ganlynol yn yr adran hon:

  • Adroddiad Blynyddol
  • Cynllun Busnes Blynyddol, gan gynnwys comisiynu
  • Targedau, nodau ac amcanion
  • Perfformiad o ran targedau/dangosyddion perfformiad allweddol/gwybodaeth am reoli perfformiad
  • Adroddiadau ansawdd, diogelwch a risg
  • Asesu Strwythuredig a Safonau ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru
  • Datganiad Ansawdd Blynyddol
  • Datganiad Llywodraethiant Blynyddol
  • Egwyddorion Caldicott ar Waith (CPiP)
  • Cynllun Asesiadau a Gwella Caldicott
  • Adroddiadau archwilio
  • Arolygon o ddefnyddwyr gwasanaeth
  • Asesiad o'r effaith ar breifatrwydd (yn llawn neu ar ffurf crynodeb)

 

Adroddiad Blynyddol

Mae ein Hadroddiadau Blynyddol ar gael ar y dudalen Adroddiadau Blynyddol.

 

Cynllun Busnes Blynyddol, gan gynnwys comisiynu

Mae manylion y Cynllun Busnes Blynyddol, gan gynnwys comisiynu a manylion ynghylch targedau, nodau ac amcanion wedi eu cynnwys yn y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig (Cynlluniau 3 Blynedd).

 

Perfformiad o ran targedau/dangosyddion perfformiad allweddol/gwybodaeth am reoli perfformiad

Mae manylion am ein crynodebau a’n dangosfyrddau perfformiad ar gael ar dudalen y Pwyllgor Cynllunio, Perfformiad a Chyllid.

 

Adroddiadau ansawdd a diogelwch

Gallwch weld adroddiadau ansawdd a diogelwch ar dudalen y Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Risg.

 

Asesu Strwythuredig a Safonau ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru

Mae’r Asesiad Strwythuredig yn hunanasesiad o safle’r Bwrdd Iechyd Prifysgol o ran Modiwl Llywodraethiant ac Atebolrwydd y Safonau ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru. Mae’r modiwl Llywodraethiant ac Atebolrwydd yn darparu fframwaith i’r BIP hunanasesu pa mor dda mae’r sefydliad yn cael ei lywodraethu, gan ei fod yn elfen mor sylfaenol o ddarparu gofal diogel ac effeithiol. Hefyd, mae’n ddefnyddiol o ran arddangos sut rydyn ni’n sicrhau bod y BIP yn addas i’r diben.

Mae crynodeb o’r asesiad lefel gorfforaethol o drefniadau llywodraethu’r Bwrdd gan ddefnyddio matrics modiwl Llywodraethiant ac Atebolrwydd, sydd i’w gynnwys yn y Datganiad Llywodraethiant Blynyddol, yn ofynnol gan Lywodraeth Cymru.

Ynghyd â’r crynodeb sydd i’w gynnwys yn y Datganiad Llywodraethiant Blynyddol, paratoir y Modiwl Llywodraethiant ac Atebolrwydd ar ran y Bwrdd a chaiff ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn unol â’r amserlenni a nodwyd. Caiff y Modiwl Llywodraethiant ac Atebolrwydd a’r Datganiad Llywodraethiant Blynyddol eu cyflwyno ill dau i’r Bwrdd.

Cafodd y Safonau ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru eu cyflwyno yn 2010, gan ddisodli ‘Safonau Gofal Iechyd i Gymru (2005)’. Mae’r safonau hyn yn nodi’r hyn y mae’n rhesymol i ddinasyddion eu disgwyl gan ein gwasanaethau iechyd. Mae’r safonau yn adnodd allweddol i’r BIP wrth iddo geisio gwella ansawdd a phrofiad cleifion. Mae rhagor o wybodaeth am y safonau ar wefan Llywodraethu GIG. Bob blwyddyn, mae'r BIP yn cynnal hunanasesiad yn erbyn y safonau fel ffynhonnell sicrwydd allweddol i bennu'r meysydd lle mae'r Bwrdd Iechyd yn gwneud yn dda a'r rhai y mae angen iddynt wneud yn well. Rhoddir adroddiadau ar gynnydd yn erbyn y Safonau i'r Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Risg.

 

Datganiad Ansawdd Blynyddol

Mae’r Datganiadau Ansawdd Blynyddol ar gael

 

Datganiad Llywodraethiant Blynyddol

Gallwch weld y Datganiad Llywodraethiant Blynyddol

 

Egwyddorion Caldicott ar Waith (CPiP)

Mae Caldicott yn elfen allweddol o’r agenda Rheoli Gwybodaeth yng Nghymru, ac yn darparu set o argymhellion ac egwyddorion er mwyn sicrhau y caiff gwybodaeth y gellir ei defnyddio i adnabod unigolyn (gan gynnwys y fath wybodaeth am gleifion, staff a defnyddwyr gwasanaeth) ei diogelu’n ddigonol. Mae rhagor o wybodaeth am Egwyddorion Caldicott ar Waith (CPiP) ar gael ar wefan Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

 

Cynllun Asesiadau a Gwella Caldicott

Mae hunanasesiad Caldicott (CPiP) yn rhoi adnodd cynhwysfawr i Reoli Gwybodaeth ac Arweinwyr Caldicott y gellir ei ddefnyddio i amlygu meysydd lle mae angen gwella, ar y cyd â meincnod ar gyfer gwerthuso cynnydd. Mae’r camau gweithredu gafodd eu hamlygu yn dilyn yr asesiad wedi cael eu cynnwys yn y Cynllun Gweithredu Llywodraethu Gwybodaeth. Gan mai cynllun gweithredu cyfredol sy’n cael ei ddiweddaru a’i ddiwygio yn rheolaidd, rhaid i chi wneud cais i Gydlynydd y Cynllun Cyhoeddi.

 

Arolygon o ddefnyddwyr gwasanaeth

Mae Adroddiadau Profiad Cleifion yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd bob chwarter ac maen nhw’n cynnwys dadansoddiad o arolygon sydd wedi eu cynnal yn ogystal â straeon cleifion.

 

Asesiadau o’r effaith ar ddiogelu data (yn llawn neu ar ffurf crynodeb)

Mae’r rhain ar gael ar gais. Cysylltwch â’r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth trwy e-bostio informationgovernancedepartment@wales.nhs.uk.

 

Dilynwch ni: