Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Cyhoeddi

Ymestyn llaw ar gyfer ffolder

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (DRhG) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi sydd wedi'i gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae'r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus sicrhau bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd yn rhagweithiol, a chyhoeddi gwybodaeth yn unol â'r cynllun.

Mae'r cynllun yn cynnwys:

  • Y dosbarthiadau o wybodaeth y mae'r awdurdod cyhoeddus yn eu darparu neu'n bwriadu eu darparu.
  • Sut mae'r wybodaeth ar gael neu sut y bydd ar gael (er enghraifft, trwy'r we neu ar ffurf copi caled).
  • Os codir unrhyw dâl am y wybodaeth.

Mae ein cynllun cyhoeddi yn Canllaw i Wybodaeth a gyhoeddir yn rheolaidd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rydym yn cydnabod bod gan y cyhoedd hawl i wybod sut mae ein gwasanaethau'n cael eu trefnu a'u darparu. Mae ganddyn nhw'r hawl i wybod pa wasanaethau sy'n cael eu darparu, safonau disgwyliedig y gwasanaethau hynny, y targedau sy'n cael eu gosod a'r canlyniadau sy'n cael eu cyflawni; ynghyd â faint rydyn ni'n ei wario er mwyn darparu'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig.

Mae'r Bwrdd Iechyd, fel pob corff cyhoeddus arall, wedi ymrwymo i fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi fel y gall gwybodaeth am y Bwrdd Iechyd fod ar gael i'r cyhoedd. Mae'r Bwrdd Iechyd wedi dewis defnyddio cynllun cyhoeddi enghreifftiol sydd wedi'i ddatblygu a'i gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae'n dilyn fformat safonol a ddefnyddir hefyd gan gyrff iechyd eraill yng Nghymru. Mae'r cynllun cyhoeddi enghreifftiol yn nodi saith dosbarth o wybodaeth ac yn diffinio'r hyn y dylid ei gynnwys ym mhob un o'r dosbarthiadau.

Mae'r saith dosbarth fel a ganlyn:

Yn ogystal â darparu gwybodaeth, bydd pob dosbarth, lle bo'n berthnasol, yn dangos sut y bydd y wybodaeth ar gael, a fydd tâl yn cael ei godi am ei darparu ac a oes unrhyw wybodaeth wedi'i heithrio.

Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth rydych ei hangen yn y cynllun cyhoeddi efallai yr hoffech gyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth i ni.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y cynllun cyhoeddi, cysylltwch â:

Cydlynydd y Cynllun Cyhoeddi

Gwasanaethau Corfforaethol
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Tŷ Ynysmeurig
Parc Hen Lofa'r Navigation
Abercynon
CF45 4SN
Ffôn: 01443 744800
E-bost: informationgovernancedepartment@wales.nhs.uk

 

 

Dilynwch ni: