Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarth 4: Sut rydym ni'n gwneud penderfyniadau

tudalen gyda saethau a dynion tegan

Mae’r wybodaeth ganlynol yn yr adran hon:

  • Papurau’r Bwrdd – agenda, papurau atodol a chofnodion
  • Strategaeth ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd
  • Ymgyngoriadau cyhoeddus (yn ymwneud â dileu neu newid gwasanaethau er enghraifft)
  • Canllawiau cyfathrebu mewnol a’r meini prawf a ddefnyddir wrth wneud penderfyniadau (h.y. systemau proses a staff allweddol)

Papurau'r Bwrdd

Mae holl bapurau’r Bwrdd o fis Tachwedd 2009 hyd heddiw ar gael ar dudalen Cyfarfodydd y Bwrdd.

 

Strategaeth ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i roi cleifion yng nghanol ei holl waith, trwy ymgysylltu a gwrando ar ei boblogaeth. Mae ystod eang o fecanweithiau ar waith i ymgysylltu, a defnyddir pob un ohonynt fel cyfrwng i:

  • Ymgynghori'n ffurfiol ar newidiadau arfaethedig i wasanaethau gofal iechyd.
  • Galluogi'r cyhoedd a chleifion i gyfrannu at ddylunio neu ailgynllunio gwasanaethau gofal iechyd.
  • Darparu gwybodaeth am wasanaethau lleol.
  • Darparu llwyfan i bartneriaid ymgynghori ar gynlluniau / newidiadau cymunedol lleol.
  • Nodi blaenoriaethau gwella ansawdd.
  • Mynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n peri pryder.

Gellir dod o hyd i restr o'r holl gynlluniau ac adroddiadau.

 

Ymgyngoriadau cyhoeddus (yn ymwneud â dileu neu newid gwasanaethau er enghraifft)

Bydd ymgyngoriadau cyhoeddus ar gael yn ôl yr angen. Byddant fel arfer yn hygyrch o'r hafan neu'r dudalen newyddion.

 

Canllawiau cyfathrebu mewnol a’r meini prawf a ddefnyddir wrth wneud penderfyniadau (h.y. systemau proses a staff allweddol)

Gwneir penderfyniadau strategol allweddol ar lefel y Cyfarwyddwr Gweithredol a Bwrdd. Mae yna nifer o is-bwyllgorau sy'n adrodd i'r Bwrdd, ac yn atebol iddo. Mae'r rhain yn darparu'r strwythur llywodraethu ac atebolrwydd yn y sefydliad. Mae'r Tîm Cyfathrebu yn darparu cymorth cyfathrebu mewnol, cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau i'r Tîm Gweithredol a'r Bwrdd.

Dilynwch ni: