Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw i Wybodaeth

Mae’r canllaw i wybodaeth hwn yn amlinellu’r 7 dosbarth o wybodaeth y byddwn ni’n eu cyhoeddi trwy’r cynllun cyhoeddi.

Bydd yr wybodaeth yn ein cynllun cyhoeddi yn cael ei darparu ar y wefan yn bennaf. Pan na fydd modd cyhoeddi gwybodaeth yn rhesymol ar y wefan, neu pan na fydd yr unigolyn am weld yr wybodaeth drwy’r wefan, bydd ffyrdd eraill o wneud hyn yn cael eu hystyried.

Yn gyffredinol, bydd yr wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau yn y cynllun cyhoeddi yn rhad ac am ddim ar y wefan, er y gallai’r Bwrdd Iechyd godi ffi pan fydd angen yr wybodaeth ar ffurf copi caled neu ar gyfrwng gwahanol (e.e. CD-ROM). Gweler ein hadran ffioedd am wybodaeth am ragor o fanylion.

Os nad yw’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi yn y Cynllun Cyhoeddi, cewch chi gyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth. Mae manylion am sut i wneud hyn ar gael yn ein canllaw ar sut i wneud cais Rhyddid Gwybodaeth yma. Mae croeso i chi gyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth yn y Gymraeg ac ni fydd hynny'n arwain at oedi.

Os oes angen rhagor o wybodaeth am y cynllun cyhoeddi arnoch chi, neu os oes angen gwybodaeth mewn iaith neu fformat gwahanol, cysylltwch â’r unigolyn isod. Rydyn ni'n croesawu negeseuon yn y Gymraeg ac ni fydd hyn yn arwain at oedi:

Cydlynydd y Cynllun Cyhoeddi
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Tŷ Ynysmeurig
Parc Hen Lofa'r Navigation
Abercynon
CF45 4SN
Ffôn: 01443 744800
E-bost: informationgovernancedepartment@wales.nhs.uk

Dilynwch ni: