Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarth 2: Beth rydyn ni'n ei wario a sut rydyn ni'n ei wario

Mae’r wybodaeth ganlynol yn yr adran hon:

  • Datganiadau ariannol, cyllidebau ac adroddiadau amrywiant
  • Adroddiadau archwiliadau ariannol
  • Lwfansau a threuliau staff uwch ac aelodau o’r bwrdd
  • Cyflogau staff a strwythurau graddfeydd cyflog
  • Cyllid (gan gynnwys cronfeydd gwaddol)
  • Gweithdrefnau caffael a thendro
  • Manylion am gontractau sy’n cael eu tendro ar hyn o bryd.

 

Datganiadau ariannol, cyllidebau ac adroddiadau amrywiant

Mae manylion y Cyfrifon Blynyddol ac Adroddiadau Blynyddol ar gael ar ein gwefan. Mae Cynlluniau Tymor Canolig Integredig (Cynlluniau 3 Blynedd) y Bwrdd Iechyd yn amlinellu cynlluniau’r sefydliad o ran gwariant ac yn cynnwys y prif risgiau i’r cynllun ariannol. Mae’r adroddiadau amrywiant yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad ariannol ym mhob Cyfarfod o'r Bwrdd.

 

Adroddiadau archwiliadau ariannol

Mae manylion yr adroddiadau archwiliadau ariannol yn cael eu cynnwys ym mhapurau cyfarfodydd o’r Bwrdd.

Mae'r Cyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog ar gael ar ein gwefan.

 

Lwfansau a threuliau staff uwch ac aelodau o’r bwrdd

Mae manylion lwfansau a chostau staff uwch ac aelodau o’r Bwrdd yn cael eu cynnwys yn yr Adroddiadau Blynyddol.

 

Cyflogau staff a strwythurau graddfeydd cyflog

Mae cyflogau staff uwch yn cael eu cynnwys yn yr adroddiadau blynyddol. Cytunir ar amrediadau cyflog staff yn unol â graddfeydd cyflog yr Agenda ar gyfer Newid yng Nghymru.

 

Cyllid (gan gynnwys cronfeydd gwaddol)

Mae gwybodaeth am gyllid yn cael ei chynnwys yn yr Adroddiadau Blynyddol.

 

Gweithdrefnau caffael a thendro

Er mis Ebrill 2011, cyflawnir swyddogaeth gaffael y Bwrdd Iechyd trwy drefniant partneriaeth gan gangen Gwasanaethau Caffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Mae'r holl fanylion sy'n ymwneud â gweithdrefnau caffael a thendro ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau wedi'u nodi yng Nghyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog (SFIs) y Bwrdd Iechyd. Mae mwy o fanylion am y gweithdrefnau caffael a thendro ar gael ar wefan Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

 

Manylion am gontractau sy’n cael eu tendro ar hyn o bryd.

Mae manylion y contractau sy'n cael eu tendro ar hyn o bryd ar gael trwy'r dolenni gwe canlynol:

Dilynwch ni: