Neidio i'r prif gynnwy

Dosbarth 5: Ein polisïau a'n gweithdrefnau

pentwr o ffeiliau

Mae’r wybodaeth ganlynol yn yr adran hon:

  • Polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â chynnal gwaith a darparu gwasanaethau
  • Iechyd a diogelwch
  • Polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud ag adnoddau dynol, gan gynnwys polisïau recriwtio a chyflogaeth
  • Polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Cynllun cydraddoldeb
  • Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb
  • Cynllun Iaith Gymraeg yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg
  • Cyfarwyddiadau / gweithdrefnau ariannol sefydlog
  • Rheolau sefydlog
  • Cwynion a pholisïau a gweithdrefnau eraill sy’n ymwneud â gwasanaeth cwsmeriaid
  • Diogelu data/rheoli cofnodion/Gwarcheidwad Caldicott
  • Rheoli Ystadau
  • Cyfundrefnau a pholisïau codi tâl

Polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â chynnal gwaith a darparu gwasanaethau

O ystyried maint a chymhlethdod y Bwrdd Iechyd Prifysgol, mae’n hollbwysig bod polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau ar waith ac mae’n rhaid i’r holl staff gadw atynt er mwyn sicrhau perfformiad priodol a lleihau digwyddiadau niweidiol.

Mae nifer o bolisïau a gweithdrefnau ar waith ar draws pob maes o fusnes y bwrdd iechyd gan gynnwys corfforaethol, gofal clinigol a chyflogaeth. Defnyddir y rhain i ddarparu arweiniad a safonau i staff y BIP.

Mae polisïau a gweithdrefnau cymeradwy’r Bwrdd Iechyd i’w gweld yn polisïau a gweithdrefnau ar y wefan. Mae’r polisïau a gweithdrefnau ar gyfer trin ceisiadau am wybodaeth hefyd i’w gweld yn yr adran hon.

Gallwch chi hefyd weld Rheolau Sefydlog a Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog y Bwrdd Iechyd.

 

Iechyd a diogelwch

Bydd polisïau a gweithdrefnau yn cael eu hychwanegu at y wefan ar ôl iddynt gael eu hadolygu a’u diweddaru. Os bydd angen gwybodaeth arnoch chi yn y cyfamser, cysylltwch â'r Adran Adnoddau Dynol.

 

Polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud ag adnoddau dynol, gan gynnwys polisïau recriwtio a chyflogaeth

Bydd polisïau a gweithdrefnau'n cael eu hychwanegu at y wefan ar ôl iddynt gael eu hadolygu a’u diweddaru. Os bydd angen gwybodaeth arnoch chi yn y cyfamser, cysylltwch â ’r Adran Adnoddau Dynol..

Mae pob cyfle cyflogaeth yn cael ei hysbysebu drwy NHS Jobs.

 

Polisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth

Bydd polisïau a gweithdrefnau yn cael eu hychwanegu at y wefan ar ôl iddynt gael eu hadolygu a’u diweddaru.

Yn yr adran hon mae manylion yr Adroddiadau Cydraddoldeb.

I gael mwy o wybodaeth am gydraddoldeb, cysylltwch â'r Adran Cydraddoldeb.

 

Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael eu cwblhau fel rhan o’r broses o ddatblygu polisi a byddan nhw ar gael ynghyd â’r polisi unigol sy’n cyd-fynd â nhw.

 

Cynllun Iaith Gymraeg yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg

Am fwy o wybodaeth am Gynllun yr Iaith Gymraeg, cysylltwch ag Uned y Gymraeg.

 

Cwynion a pholisïau a gweithdrefnau eraill sy’n ymwneud â gwasanaeth cwsmeriaid

Mae manylion ynglŷn â sut i wneud cwyn yn ogystal â’r dogfennau perthnasol.

 

Diogelu data/rheoli cofnodion/Gwarcheidwad Caldicott

Mae Polisi Llywodraethu Gwybodaeth Cymru Gyfan i’w weld yn polisïau a gweithdrefnau. Os bydd angen gwybodaeth arnoch yn y cyfamser, cysylltwch â Chydlynydd y Cynllun Cyhoeddi.

 

Rheoli Ystadau

Mae manylion Strategaeth Ystadau’r Bwrdd Iechyd i’w gweld.

 

Cyfundrefnau a pholisïau codi tâl

Gall y Bwrdd Iechyd godi ffi pan ofynnir am wybodaeth. Gweler ein hadran ffioedd am wybodaeth am ragor o fanylion.

Dilynwch ni: