Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Glanrhyd yn dod i'r brig am y trydydd tro

Mae Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ennill gwobr uchel ei bri’r Faner Werdd 2020-21.

Dyma’r trydydd tro y mae’r ysbyty wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd. Enillodd y wobr am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2018. Enillodd yr ysbyty y wobr eto er mwyn cydnabod cynnydd parhaus y cynllun cynnal a chadw’r tiroedd sydd ar waith ar y safle.

Mae cynllun Baner Werdd Cadwch Gymru’n Daclus yn cydnabod ac yn gwobrwyo parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu cynnal mewn cyflwr da. Mae’n feincnod o ran safon ym maes cynnal a chadw mannau hamdden awyr agored ar draws y DU a’r byd.

Dywedodd Russell Hoare, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfleusterau: “Ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, hoffwn ddiolch i’r Tîm Cyfleusterau, Tiroedd a Gerddi a Thîm Cyfleusterau Ysbyty Glanrhyd am eu hymdrech ragorol wrth gynnal a chadw’r safle a’r mannau gwyrdd.”

“Maen nhw, gyda chymorth y Tîm Cyfleusterau yn gyffredinol, wedi dangos gwaith tîm arbennig yn ogystal â’u hymrwymiad i gyflawni amcanion mannau gwyrdd cymunedol y Faner Werdd. Maen nhw i gyd yn haeddu clod am eu cyfraniad a arweiniodd aton ni yn derbyn y wobr arwyddocaol hon.”

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd Cadwch Gymru’n Daclus: “Mae’r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o safon uchel i’n cymunedau. I nifer ohonon ni, maen nhw wedi bod yn noddfa ar ein stepen ddrws sydd wedi bod o fudd i’n hiechyd a’n lles.

“Mae’r 224 baner sy’n hedfan eleni yn brawf o waith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau uchel iawn dan amgylchiadau hynod o heriol. Hoffwn eu llongyfarch am eu hymrwymiad rhagorol.”