Neidio i'r prif gynnwy

Uned Mân Anafiadau Ysbyty Cwm Cynon yn ail-agor ei drysau yr wythnos nesaf

Mae'n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gyhoeddi y bydd yr Uned Mân Anafiadau yn ail-agor yn Ysbyty Cwm Cynon yr wythnos nesaf (ddydd Mawrth 24 Mai).

Bydd yn ail-agor yn raddol, a hynny am ddau fore'r wythnos (ar ddydd Mawrth a dydd Iau) rhwng 9am ac 11pm i ddechrau. Bydd hyn yn cynyddu i dri bore'r wythnos erbyn diwedd mis Mai, a bydd yr uned yn ail-agor yn llawn o ddydd Llun i ddydd Gwener erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Wrth gyhoeddi'r ailagor, meddai Gethin Hughes, Prif Swyddog Gweithredu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Y peth cyntaf rydw i am ei wneud yw diolch i'n cymunedau am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni weithio i ail-agor yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Cwm Cynon. 

“Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw'r gwasanaeth i'r boblogaeth leol, ac fel Bwrdd Iechyd, rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i adfer yr Uned am yr union reswm hwn. Cefnogaeth y cymunedau sydd wedi rhoi'r amser angenrheidiol i ni wneud hyn yn iawn. 

“Rydyn ni wedi llwyddo i recriwtio ymarferwyr brys cofrestredig, sy'n golygu, unwaith y bydd yr Uned ar agor bum diwrnod yr wythnos, byddwn ni wedyn yn bwriadu cynnig rhagor o ofal brys yn Ysbyty Cwm Cynon.”

Bydd yr Uned Mân Anafiadau yn symud dros dro i’r Ganolfan Gofal Sylfaenol ar y llawr gwaelod ynghyd â chlinigau gofal sylfaenol eraill, a bydd system apwyntiadau ar waith wrth i ni ail-gyflwyno'r gwasanaeth. I drefnu apwyntiad, neu i gael eich cyfeirio at y gofal priodol, cysylltwch â 01443 444075.