Neidio i'r prif gynnwy

Tim llawfeddygol yn trin eu claf hynaf gan ddefnyddio techneg arloesol sy'n ei gwneud yn bosibl i gleifion ddychwelyd adref yr un diwrnod

Gallai cleifion sy'n cael mathau penodol o lawdriniaeth orthopedig fod yn ôl yn eu cartrefi eu hunain ar yr un diwrnod diolch i ddull arloesol sy'n cael ei ddefnyddio yn Ysbyty Tywysoges Cymru.

Mae tîm yr uned ddydd yn yr ysbyty ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn defnyddio dull newydd o ymdrin â llawdriniaeth orthopedig sy'n golygu y gallai cleifion barhau i wella yng nghysur eu cartref eu hunain yn ddiweddarach yr un diwrnod.

Mae yna lawer o wahanol fanteision i'r dull hwn. Gall cleifion sy’n dychwelyd adref yn fuan ar ôl eu llawdriniaeth wella mewn amgylchedd sy’n gyfarwydd iddyn nhw gyda chefnogaeth aelodau o'r teulu. Mae hefyd yn golygu bod mwy o welyau ar gael yn yr ysbyty gan fod eu harhosiad yn yr ysbyty yn cael ei leihau o bedwar diwrnod i 0 diwrnod.

Yr ysbyty oedd y cyntaf yng Nghymru i roi’r dull hwn ar waith yn 2018 ac, ers hynny, mae llawer o lawdriniaethau llwyddiannus wedi cael eu cynnal heb i’r un claf orfod cael ei aildderbyn i’r ysbyty. Gofynnir i gleifion a fydden nhw’n hapus i ddychwelyd adref yr un diwrnod â'u llawdriniaeth. Yna, maen nhw’n cael eu dewis yn dibynnu ar eu hiechyd cyffredinol, eu symudedd a chefnogaeth deuluol.

Mae'r staff nyrsio yn yr Uned Llawdriniaeth Ddydd yn cysylltu â chleifion dau ddiwrnod cyn eu llawdriniaeth. Maen nhw’n sôn am yr hyn fydd yn digwydd ar y diwrnod ac yn rhoi sicrwydd ynghylch unrhyw bryderon y gall fod ganddyn nhw.  Mae’r staff nyrsio hefyd yn achub ar y cyfle hwn i sicrhau bod gan y claf ddigon o gefnogaeth a'i fod yn barod i dreulio’r cyfnod ar ôl y llawdriniaeth gartref. Bydd y claf hefyd yn cael asesiad gyda’r adran ffisiotherapi cyn cael y llawdriniaeth lle caiff ei addysgu ar sut i ddefnyddio baglau yn gywir a dringo grisiau. Bydd hefyd yn cael gwybodaeth am ymarferion i'w gwneud gartref yn ystod y cyfnod ar ôl y llawdriniaeth.  Yn dilyn ei lawdriniaeth, bydd y claf yn dychwelyd i'r Uned Llawdriniaeth Ddydd ar gyfer adferiad estynedig. 

Unwaith y bydd y claf wedi adfer ar ôl y llawdriniaeth, caiff ei ryddhau adref gyda gwybodaeth gyswllt os oes ganddo unrhyw ymholiadau. Yn ystod ei adferiad, bydd yn derbyn galwadau ffôn gartref gan yr uned llawdriniaeth ddydd er mwyn sicrhau bod popeth yn mynd yn esmwyth.

Gan ddefnyddio'r dull arloesol hwn, fe wnaeth y tîm drin eu claf hynaf yn ddiweddar. Cafodd Mr David Taylor (yng nghanol y llun), sy’n 85 oed ac yn byw yn Aberogwr, lawdriniaeth ar ei ben-glin yn yr ysbyty yn ddiweddar. Cyrhaeddodd Mr Taylor yr ysbyty i gael ei lawdriniaeth am 7.30am a gwnaeth aelod o'r teulu fynd ag ef adref am 5.30pm.

Mae Mr Taylor, a gafodd ei lawdriniaeth ym mis Rhagfyr ac sydd wedi gwella'n llwyr, wrth ei fodd yn garddio ac yn mwynhau beicio a mynd am dro. Roedd y boen a'r anesmwythder yn ei ben-glin yn ei atal rhag gwneud llawer o'r pethau yr oedd yn eu caru a gallai ddim aros i fyw bywyd normal heb y boen.

Dywedodd: “I mewn ac allan mewn un diwrnod, mae'n wych.”

“Doeddwn i ddim yn nerfus i ddod adref yn fuan ar ôl fy llawdriniaeth; wnaeth e’ ddim hyd yn oed croesi fy meddwl. Roeddwn i’n ticio'r holl flychau roedd angen eu ticio o ran fy symudedd, cefnogaeth deuluol, fy iechyd. Roedd gen i bob hyder yn fy llawfeddyg a'i dîm.

“Ces i’r holl gymorth roedd ei angen arna’ i gan y llawfeddyg, y ward llawdriniaeth ddydd a'r ffisio. Yr eisin ar ben y deisen oedd cael bod yn fy nghartref fy hun ar ôl i’r llawdriniaeth orffen.

“Rwy'n gallu gwneud fy ngarddio, rwy'n edrych ymlaen at fynd yn ôl ar y beic a mynd am dro hirach. Does gen i ddim byd ond canmoliaeth i fy llawfeddyg, rwy'n ddiolchgar iawn.”

Dywedodd Mr Amit Chandratreya, Llawfeddyg Orthopedig yn Ysbyty Tywysoges Cymru: “Mae'r dull hwn o fudd enfawr i'r ysbyty ac i’r claf. Bydd cleifion yn gwella'n well o fod gartref, mewn amgylchedd cartrefol. Mae cael eich bwyd eich hun, bod yn eich gwely eich hun a bod mewn amgylchedd sy’n gyfarwydd i chi i gyd yn fuddiol ar gyfer adferiad corfforol y claf yn ogystal â'i feddylfryd.”

Dywedodd Dr Rahul Kotwal, Meddyg Ymgynghorol Orthopedig yn Ysbyty Tywysoges Cymru: “Mae cleifion mor hapus pan rydyn ni'n rhoi'r opsiwn hwn iddyn nhw. Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac yn parhau i fod.”

 

 

 

29/12/22