Neidio i'r prif gynnwy

'Sweets R Us' yn agor yn Ysbyty George Thomas i gefnogi cleientiaid i gynnal a gwella annibyniaeth

Llun o'r chwith i'r dde: Marc Richards, Rheolwr Ward, Jolee Gregory, Dirprwy Reolwr Ward, Martyn John, Dirprwy Reolwr Ward.

Mae’n bleser gan yr Uned Adfer Cefnogol yn Ysbyty George Thomas agor eu siop ward newydd ‘Sweets R Us’.

Mae ‘Sweets R Us’ yn siop ddielw sy’n darparu byrbrydau, diodydd a hanfodion dyddiol i bob claf ar yr uned. Bydd y siop yn cael ei rhedeg gan y cleifion dri diwrnod yr wythnos a bydd yn eu cefnogi i ddatblygu a gwella sgiliau bywyd megis annibyniaeth, cyfathrebu, dealltwriaeth o gyllid a chynllunio cyllideb, yn ogystal â sgiliau rhifedd a llythrennedd – mae hefyd yn darparu cleifion gyda ymdeimlad o gyfrifoldeb a theimlad o hunanwerth.

Dywedodd Dirprwy Reolwr y Ward, Martyn John: “Rydym yn gobeithio y bydd hwn yn gam cadarnhaol a llwyddiannus ar gyfer gwasanaeth adsefydlu cleifion mewnol, a gobeithiwn y bydd yn gwneud y gorau o botensial ein cleifion yn ystod eu taith adferiad.”

Dywedodd claf yn yr uned sydd wedi dechrau rôl yn y siop yn ddiweddar: “Mae wedi bod yn brofiad gwych iawn i mi ac mae’n gwneud fy amser ar y ward yn fwy ystyrlon a diddorol.”

 

01/11/2022