Neidio i'r prif gynnwy

Sganiwr MRI newydd o'r radd flaenaf yn Ysbyty Tywysoges Cymru

Sganiwr MRI yn Ysbyty Tywysoges Cymru yw'r cyntaf yng Nghymru, a’r ail yn ysbytai’r GIG yn y DU, i gael ei uwchraddio, er mwyn rhoi mwy o gysur i gleifion a darparu delweddau o ansawdd uwch.

Mae pecyn AIR™ Recon DL yn algorithm ail-greu arloesol, seiliedig ar ddysgu dwfn sy’n cael ei gymhwyso i ddata crai sganiau er mwyn gwella’r gymhareb rhwng arwyddion a sŵn (SNR) ac eglurder delweddau.

Meddai Sharon Donovan, y Pennaeth Radiograffeg Dros Dro: “Rydyn ni’n falch o fod ar flaen y gad wrth gyflwyno’r dechnoleg newydd hon yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Yn ogystal â gwella cysur ein cleifion yn sylweddol, bydd y sganiwr newydd yn lleihau’r amser mae'n ei gymryd i gynnal sgan cryn lawer. Mae hyn yn golygu y bydd modd i ni weld mwy o gleifion yn gynt, ac mae hynny’n bwysig iawn.”

Yn ogystal â hynny, y tîm yn Ysbyty Tywysoges Cymru yw'r cyntaf yn y DU i osod system taflunydd TELEMED. Maen nhw wedi cael gwared ar deils ar y nenfwd uwchben y sganiwr a gosod paneli yn eu lle, sy’n goleuo i greu delweddau o awyr las, blodau ceirios a’r heulwen er mwyn helpu cleifion i ymlacio.

Eglurodd Sharon: “Mae cleifion yn elwa’n fawr ar y system hon, yn enwedig y rheiny sy’n dioddef o glawstroffobia a’n cleifion paediatrig ifanc.”