Neidio i'r prif gynnwy

Rhybudd Tywydd Poeth

Mae cyfnodau hir o dywydd poeth eithafol yn golygu peryglon iechyd difrifol. 

Gall amlygiad gormodol i dymheredd uchel ladd. 

Mae’r rheiny sydd yn y perygl mwyaf yn cynnwys pobl hŷn, plant ifanc iawn a phobl sydd â chyflyrau meddygol sy’n bod yn barod.

Cyngor iechyd I’r cyhoedd

 

Arhoswch allan o'r gwres

  • Ceisiwch aros dan do, yn enwedig rhwng canol dydd a 3pm 
  • Dylid osgoi gweithgareddau awyr agored egnïol fel chwaraeon, DIY neu arddio. Os na fydd hynny’n bosib, gwnewch hynny yn ystod adegau mwy claear o’r dydd 
  • Defnyddiwch hylif gwrth-haul neu floc haul i helpu i atal llosg haul 
  • Gorchuddiwch eich corff â chrys t neu ddillad llad eraill 
  • Gwisgwch het i gysgodi eich pen a sbectol haul i amddiffyn eich llygaid

Ymoerwch

  • Yfwch ddigon o ddŵr, o leiaf wyth gwydraid y dydd. Dylid osgoi alcohol, te a choffi gan y gallan nhw eich dadhydradu 
  • Cymrwch faddon neu gawod glaear, neu tasgwch eich wyneb â dŵr oer i ymoeri

Cadwch eich amgylchedd yn glaear

  • Diffoddwch oleuadau a chyfarpar trydanol sydd ddim yn hanfodol – maen nhw’n cynhyrchu gwres 
  • Cadwch blanhigion tŷ a phowlenni o ddŵr yn y tŷ – mae anweddiad yn helpu i oeri’r aer 
  • Os yn bosib, symudwch i ystafell oerach, yn enwedig i gysgu 
  • Gall ffaniau trydan ddarparu peth rhyddhad, ond dylid eu defnyddio dim ond os oes angen 
  • Arhoswch yn rhannau oeraf yr adeilad cymaint ag sydd bosib 
  • Cadwch ystafelloedd yn gysgodol ac yn glaear drwy gau’r bleindiau a’r llenni ac agor ffenestri

Cadwch lygad ar eraill

  • Cadwch lygad ar bobl sydd ar eu pen eu hunain, yr oedrannus, y gwael neu’r ifanc iawn a gofalwch eu bod yn gallu cadw’n oer braf 
  • Gofalwch nad yw babanod, plant neu bobl oedrannus yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain mewn ceir sefydlog 
  • Cadwch lygad ar gymdogion, teulu neu ffrindiau oedrannus neu wael bob dydd os yn bosib 
  • Byddwch yn wyliadwrus a ffoniwch y doctor neu’r gwasanaethau cymdeithasol os bydd rhywun yn wael neu os bydd angen help pellach

Os oes gennych broblem iechyd

  • Cadwch feddyginiaethau dan 25°C neu yn yr oergell (darllenwch y cyfarwyddiadau storio ar y pecyn 
  • Ceisiwch gyngor meddygol os byddwch yn dioddef cyflwr iechyd cronig/yn cymryd meddyginiaethau lluosog

Darllenwch fwy am gadw'n oer a gofalu amdanoch chi'ch hun ac eraill yn y tywydd poeth yma.