Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Gofal y Cymalau CTM - Stori Richard

Mae Rhaglen Gofal y Cymalau CTM yn rhaglen sydd wedi'i theilwra’n arbennig i wella symudedd a gweithrediad pobl sydd â phoen yn eu pen-glin neu eu clun.

Y nod yw gwella symudedd a gweithrediad cymalau cleifion naill ai er mwyn lleihau'r angen am lawdriniaeth ar y cymalau neu i’w helpu i wella ar ôl llawdriniaeth. Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno gan weithwyr ymarfer corff proffesiynol hyfforddedig a'i chefnogi gan Dîm Iechyd y Cyhoedd CTM, ynghyd â'r Deietegwyr Iechyd y Cyhoedd.

Mae llawer o fanteision i'r cwrs, fel annog ffordd iachach o fyw i leihau'r risg o ddatblygu cyflyrau iechyd pellach, gwella symudedd a gweithrediad y cymalau, cynyddu gwybodaeth am faeth, ynghyd â llawer o ffactorau eraill. Mae hefyd yn rhoi cyfle i gyfranogwyr gymdeithasu a siarad â phobl eraill sydd â chyflyrau iechyd tebyg.

Wrth rannu ei brofiad ef, dywedodd Richard, un o gleifion Rhaglen Gofal y Cymalau: "Mae Rhaglen Gofal y Cymalau wedi fy helpu’n fawr i ddeall ffyrdd iachach o fwyta; mae maint fy mhlât wedi newid ac mae’r elfen ymarfer corff wedi bod yn anhygoel. Fe wnes i fwynhau’r sesiynau coginio - roedd y cawl corbys yn flasus iawn ac roeddwn i’n teimlo’n llawn ar ôl ei fwyta. Rwy'n defnyddio corbys gartref nawr fel cynhwysyn newydd - dydw i ddim wedi'u defnyddio o'r blaen ac maen nhw’n rhad i'w prynu hefyd."

Gallwch chi ddarllen mwy am Richard a'i daith gyda Rhaglen Gofal y Cymalau yma - "Rydw i nawr yn gallu neidio allan o fy nghadair gartref!" – Stori Claf Richard - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)

Gall atgyfeiriad at Raglen Gofal y Cymalau gael ei wneud gan Feddyg Teulu, Ffisiotherapydd, Deietegydd neu unrhyw Weithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol cofrestredig.

Darllenwch fwy am Raglen Gofal y Cymalau yma.

 

10/02/2023