Neidio i'r prif gynnwy

"Rydw i nawr yn gallu neidio allan o fy nghadair gartref!" - Stori Claf Richard

Mae'r Rhaglen Gofal y Cymalau’n rhaglen wedi'i theilwra er mwyn gwella symudedd a gweithrediad pobl sydd â phoen yn eu pen-glin neu glun. Mae'r rhaglen yn rhoi gwybodaeth am fwyta'n iachach gan gynnwys pynciau fel bwyta'n iach, maint dognau, cyfnewid bwydydd a diodydd am rai iachach, delio â chwant bwyd, labeli bwyd a goresgyn rhwystrau. Enw'r rhan hon o'r rhaglen yw Bwyd Doeth am Oes. Mae sesiynau coginio rhyngweithiol (Dechrau Coginio) hefyd yn cael eu cynnwys ochr yn ochr â sesiynau ymarfer corff llai heriol.

Y nod yw i gleifion gyrraedd pwysau iachach, gwella eu symudedd a gweithrediad eu cymalau er mwyn lleihau'r angen am lawdriniaeth ar y cymalau. Os oes angen llawdriniaeth o hyd, bydd y rhaglen yn eu helpu i wella.

Roedd Richard, un o gleifion ein Rhaglen Gofal y Cymalau, eisiau rhannu ei brofiad o’r rhaglen 12 wythnos a arweiniodd ato’n gallu mwynhau mynd a’i gŵn am dro am gyfnodau hirach. Cyn ymuno â'r Rhaglen Gofal y Cymalau, dywedodd Richard y byddai'n dioddef poen yn ei gymalau a byddai diffyg anadl yn ei atal rhag bod yn actif. Dywedodd Richard fod ei wraig hefyd yn hapus iawn gan nad yw'n cael trafferth a nawr mae’n neidio allan o'i gadair gartref.

Soniodd Richard hefyd sut y gall yn awr ffitio drwy ddrysau patio ei ffrind ac mae'r cyfan o ganlyniad i'r holl newidiadau y mae wedi'u gwneud drwy'r Rhaglen Gofal y Cymalau. Dywedodd Richard ei fod wedi newid i ddewisiadau bwyd iachach. Nawr, mae’n yfed mwy o ddŵr, nid yw’n bwyta pecynnau o fisgedi gyda'i de ac mae wedi lleihau maint ei ddognau sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.

Dywedodd Richard wrthym:

"Mae’r Rhaglen Gofal y Cymalau wedi fy helpu’n fawr i ddeall y ffyrdd o fwyta, mae maint fy mhlât wedi newid ac mae’r elfen ymarfer corff wedi bod yn anhygoel. Roedd y sesiynau coginio’n bleserus iawn, roedd y cawl corbys yn neis iawn ac yn fy llenwi. Rwy'n defnyddio corbys gartref nawr fel cynhwysyn newydd nad ydw i wedi'i ddefnyddio o'r blaen ac mae hefyd yn rhad i'w brynu."

Dywedodd Richard ei fod wedi dilyn y rhaglen trwy gael ei gyfeirio gan ei ffisiotherapydd a bod disgwyl iddo gael llawdriniaeth yn fuan. Bydd y rhaglen yn help mawr i'w adferiad ac mae wedi atal ei symudedd a gweithrediad ei gymalau rhag gwaethygu hyd yn oed ymhellach. Mae'r rhaglen wedi ei helpu’n fawr i wella ei gymalau a dywedodd fod y sesiynau'n hawdd eu cyrraedd a bod pawb yn helpu ei gilydd. Roedd tîm Gofal y Cymalau’n gymwynasgar iawn ac yn rhoi cefnogaeth wych. Meddai Richard:

"Roedd yr ymarfer corff yn berffaith ac roeddwn i’n ceisio gweithio'n galetach bob wythnos ac fe gynyddais y pwysau roeddwn i’n ei ddefnyddio yn ystod y rhaglen. Roedd unrhyw beth y byddwn i’n gofyn amdano’n cael ei ddarparu a'i gefnogi gan Dîm Gofal y Cymalau."

Mae Richard yn bwriadu dal ati i wneud ymarfer corff yn y ganolfan hamdden leol a bydd yn parhau i roi popeth y mae wedi'i ddysgu ar waith.

Dywedodd Tamara, y Tiwtor Rhaglen Gofal y Cymalau a gefnogodd Richard: "Roedd Richard yn gweithio'n galed iawn yn ystod y rhaglen 12 wythnos ac mae ei waith caled wedi talu ar ei ganfed. Roedd yn bleser ei gael yn y dosbarth ac rydw i mor hapus ei fod wedi gwneud gwahaniaeth yn ei fywyd."

Canlyniadau Iechyd Rhaglen Gofal y Cymalau 12 wythnos Richard:

Pwysau:

-14.6 kg

Gwasg:

-14 cm

Ansawdd Bywyd:

+26.6

Lles:

+1

Symudedd/Gweithrediad Pen-glin:

+4

Eistedd i Sefyll:

ailadrodd +7 

Prawf Cerdded 6 Munud:

+160 metr

 

Meddai’r Tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol sy’n rheoli’r rhaglen gyffredinol o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg: "Mae'r Rhaglen Gofal y Cymalau’n wasanaeth gwych sydd ar gael ar draws Cwm Taf Morgannwg. Mae'n hollol rhad ac am ddim a gall helpu pobl i fyw bywyd mwy egnïol a hapus. Diolch Richard am rannu eich stori ysbrydoledig gyda ni ac rydyn ni’n dymuno’r gorau i chi ar gyfer y dyfodol."

 

Mae rhagor o ddolenni i’r rhaglenni uchod i’w gweld isod:

Rhaglen Gofal y Cymalau

Straeon Cleifion Rhaglen Gofal y Cymylau

Deieteg Iechyd y Cyhoedd (Bwyd Doeth a Dechrau Coginio)

 

Dilynwch ni: