Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect newydd yn lleihau amseroedd aros ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal

Mae prosiect sy'n lleihau amseroedd aros ar gyfer cleifion cartrefi gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd angen mynediad at gyngor amlddisgyblaethol, wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Hyrwyddo Gofal Iechyd Cymru 2022.

Mae pedwar Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd o Wasanaethau Integredig Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar y rhestr fer ar gyfer y gwobrau sy'n gyfle i gydnabod a dathlu gwaith pwysig ac arloesol gwyddonwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ledled Cymru.

Mae'r Prosiect Enghreifftiol Bevan hwn yn ffordd integredig newydd o ddarparu gofal llyncu, maeth a rheoli meddyginiaeth i breswylwyr cartrefi gofal er mwyn gwella canlyniadau clinigol, lleihau nifer y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty yn ddiangen a gwella boddhad swydd i staff iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn y cyfnod peilot hwn, roedd y gwasanaeth ar gael i dros 260 o breswylwyr cartrefi gofal yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae hwn yn fodel integredig y gellir ei ymestyn yn hawdd ledled Cymru.

Sheiladen Aquino, Therapydd Iaith a Lleferydd Arweiniol Clinigol, yw arweinydd y prosiect yn CTM. Meddai hi: “Oherwydd y pwysau yn sgil COVID-19 rydym yn gweld amseroedd aros cynyddol yn y sector cartrefi gofal, yn enwedig i breswylwyr ag anawsterau llyncu a all arwain at ddiffyg maeth, diffyg cadw at feddyginiaeth a derbyniadau heb eu cynllunio i'r ysbyty.”

Mae gan y prosiect dri nod:

  • darparu hyfforddiant amlddisgyblaethol i staff cartrefi gofal i reoli risgiau tra bod gwasanaethau iechyd yn gwella ar ôl y pandemig, 
  • i gyd-ddylunio llwybr clinigol integredig effeithlon gyda nifer o randdeiliaid
  • archwilio mesurau canlyniadau cynhwysfawr i gynnwys effeithlonrwydd, osgoi derbyniadau i ysbytai a chanlyniadau clinigol

Parhaodd Sheiladen: “Ar ôl i hyfforddiant gael ei ddarparu yn rhan o'n prosiect, fe wnaeth staff cartrefi gofal wella eu hyder wrth reoli problemau llyncu, maeth a meddyginiaeth sylfaenol i liniaru risgiau'n effeithiol.

“Maen nhw’n cynnal asesiadau ar y cyd gan ddefnyddio ymgynghoriadau fideo grŵp trwy'r platfform ar-lein Attend Anywhere ac yn datblygu cynlluniau gofal disgwyliedig ar y cyd.

“Rydym yn gweld canlyniadau rhagorol. Mae sefydlu un dull atgyfeirio i gael mynediad at dri phroffesiwn perthynol i iechyd arbenigol wedi lleihau mewnbwn gan feddygon teulu, wedi dileu nifer o restrau aros ac wedi arwain at ostyngiad o 70% mewn amseroedd aros.

“Roedd lefel maeth preswylwyr, ymlyniad at feddyginiaeth ac ansawdd bywyd yn cael eu cynnal. Gwelwyd gostyngiad o 50% yn y posibilrwydd o dderbyn cleifion i'r ysbyty yn ddiangen.

“Canfuom ni hefyd fod staff cartrefi gofal yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n fwy ac yn dweud eu bod wedi cael boddhad yn eu swydd gyda'r ffordd newydd hon”

Yn ymuno â Sheiladen yn nhîm y prosiect mae Thomas Sauter, Fferyllydd Arweiniol Clinigol, Lucy Marland, Deietegydd Arweiniol Cartrefi Gofal Arbenigol ac Amber McCollum, Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol.

 

01/11/2022