Neidio i'r prif gynnwy

Park Plaza Caerdydd yn cysylltu â 'Giving to Pink' ar gyfer Hydref llawn o de prynhawn i godi arian

Cafodd Giving to Pink ei sefydlu gan Clare Smart, yn ystod ei thaith ei hun drwy ganser y fron yn 2014. Yn fuan, sefydlodd Clare grŵp codi arian o bobl yr effeithiwyd arnyn nhw mewn rhyw ffordd gan ganser y fron. Mae'r grŵp, sydd yn ei 9fed blwyddyn, yn cynnwys cleifion diolchgar, eu ffrindiau a'u teuluoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

“Mae Park Plaza yn enwog am weini detholiad gwych o De Prynhawn a gyda mis Hydref yn Fis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, roeddem yn meddwl y byddai'n wych cefnogi'r elusen hon. Elusen sy’n mor bwysig i bob un ohonom ni. Rydym wrth ein bodd yn cefnogi elusen leol lle mae pob ceiniog a wneir yn mynd yn uniongyrchol i Giving To Pink – dim costau cyflogres (holl wirfoddolwyr), dim prif swyddfa na chostau cyffredinol.

“Deilliwyd Giving to Pink o benderfyniad Clare i roi rhywbeth yn ôl i’r ysbyty a’r timau clinigol a oedd yn gofalu amdani mor dda yn dilyn ei diagnosis o ganser y fron. Yn ystod y blynyddoedd a ddilynodd, roedd Clare yn benderfynol y byddai’r ganolfan ragoriaeth, ar gyfer cleifion gofal y fron, yn dod yn realiti, ac mae ymdrechion codi arian, dros amser, wedi cael eu cefnogi gan y Gymuned y mae’r grŵp yn dragwyddol ddiolchgar iddi.

“Mae Giving to Pink bellach wedi codi dros £300,000 ac agorodd y ganolfan ragoriaeth o’r enw Y Canolfan Bronnau’r Lili Wen yn swyddogol ar 21 Medi 2023.

“Yn anffodus bu farw Clare ym mis Awst eleni, a thra bod Clare yn aml yn cael ei gweld fel ‘wyneb Giving to Pink’, nid oedd byth amdani hi - roedd yn ymwneud ag ysbrydoli cymuned i gyd-dynnu a gwneud pethau gwych er lles pennaf eraill. Roedd Clare yn falch y byddai'r Ganolfan yn cefnogi cleifion, ar adegau anodd, i ddelio â diagnosis o ganser y fron a nawr yn cynnig y math o gyfleusterau yr oeddent yn eu haeddu.

“Dydy’r codi arian ddim yn dod i ben yma. Bydd angen rhoi offer yn y Canolfan Bronnau’r Lili Wen i wella’r amgylchedd a’r safonau uchel o ofal ar gyfer cleifion canser y fron a ni allai’r cysylltiad â’r Park Plaza, Caerdydd a’r amseriad fod wedi bod yn well.

“Mae gŵr Clare, Gareth Smart, eisiau sicrhau bod etifeddiaeth Clare yn parhau ac roedd wrth ei fodd pan ddaeth y Park Plaza, Caerdydd ato i ofyn a allent fod yn rhan o’r ymgyrch codi arian hon yn ystod mis Hydref, meddai Gareth: “ Roedd Clare yn caru bywyd ac wedi mwynhau amser gyda ffrindiau a theulu yn y Park Plaza Caerdydd, dros y blynyddoedd. Allwn i ddim meddwl am ffordd well o godi arian er cof am Clare ac rwy’n ddiolchgar i Margaret a’i thîm yn y Park Plaza Caerdydd am eu brwdfrydedd a’u hangerdd wrth gefnogi Giving to Pink.”

Mae'n ychwanegu: “Giving to Pink oedd etifeddiaeth Clare i’r gymuned a pharhaodd i weithio’n ddiflino yn ystod wythnosau a dyddiau olaf ei bywyd, gan sicrhau y byddai’r gwaith da yn parhau.

“Rydym yn gobeithio y bydd ei hetifeddiaeth yn parhau trwy’r gwaith y mae’r grŵp codi arian yn ei wneud yn y dyfodol ac yn sicr bydd y bartneriaeth codi arian hon gyda’r Park Plaza, Caerdydd yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau ei fod yn gwneud hynny.”

Mae Margaret Waters, Rheolwr Cyffredinol a’i Thîm yn Park Plaza wrth eu bodd yn cefnogi’r elusen hynod deilwng hon ac yn gobeithio denu cymaint o westeion â phosibl i fwynhau ein Te Prynhawn Pinc. Bydd Park Plaza yn cyfrannu 10% o’r elw am bob te prynhawn a werthir yn ystod mis Hydref.  Pa ffordd well o godi arian na mwynhau te prynhawn gwych yn Park Plaza Caerdydd gyda ffrindiau a theulu.

Ewch i https://www.parkplazacardiff.com/afternoon-tea/ am fwy o wybodaeth ac i archebu.

 

28/09/2023