Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys eiddilwch Cwm Taf Morgannwg yn cipio gwobr 'Gofalu am Bobl Hyn' yng Ngwobrau'r Nursing Times

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod dau o’n nyrsys Gofal Sylfaenol Clwstwr Taf Elái, Christopher Waters a Melissa Duffy wedi ennill Gwobr ‘Gofal yr Henoed’ yng Ngwobrau’r Nursing Times ar dydd Mercher 26 Hydref allan o wyth darparwr gofal iechyd arall ar y rhestr fer. Roedd y Gwobrau, a gynhaliwyd yng Ngwesty Grosvenor House, Llundain yn cynnwys pum categori ar hugain i gyd.

Dyfarnwyd y Wobr am y gwasanaeth a ddarparwyd gan y nyrsys a'u gwaith arloesol. Nod y gwaith y maent yn ei wneud yw lleihau'r galw am wasanaethau sylfaenol a statudol drwy ganfod eiddilwch cyn i bobl ddirywio. Mae'r nyrsys yn nodi unigolion bregus ac eiddil ac yn mynd ati'n rhagweithiol i gysylltu â'r rhai sydd â chyswllt cyfyngedig a meddygon teulu. Yna mae'r nyrsys yn cysylltu ag iechyd a gofal cymdeithasol trawsffiniol, i sicrhau bod y cleifion yn cael mynediad at y gofal cywir ar yr amser cywir.

Dywedodd Dr Victoria Whitbread, Meddyg Teulu ym Meddygfa Ashgrove ac Arweinydd Clinigol Taf Elái: “Rwyf mor falch bod ein nyrsys eiddilwch wedi cael eu cydnabod am y gwaith y maent yn ei wneud gyda’n cleifion ac wedi ennill Gwobr ‘Nursing Times’ am ‘Gofal Pobl Hŷn’. . Mae’r berthynas sydd gan nyrsys eiddilwch â’r tîm gofal sylfaenol ehangach, gwasanaethau cymdeithasol a thimau’r trydydd sector yn sicrhau bod anghenion a phryderon cleifion yn cael eu nodi ac yr eir i’r afael â nhw’n gyflym naill ai gan y nyrsys eiddilwch eu hunain neu drwy atgyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol i’r claf. Maent yn gweithredu’n gynnar ac yn sicrhau bod anghenion wedi’u diwallu i ohirio canlyniadau negyddol sy’n gysylltiedig ag eiddilwch, megis colli annibyniaeth, derbyniadau i’r ysbyty, mwy o gyswllt Gofal Sylfaenol a throsglwyddo cynamserol i ofal llawn amser.”

Dywedodd Janet Kelland, Rheolwr Datblygu Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, clwstwr Taf Elai: “Mae Christopher a Melissa yn haeddu’r wobr hon gan eu bod wedi dod at ei gilydd o wahanol rolau, gan ddod â’u cyfoeth o wybodaeth a phrofiad, i sefydlu gwasanaeth newydd sbon yn ein hardal ar gyfer y budd cleifion. Maent nid yn unig yn ymweld â chleifion yn eu cartrefi i ddarparu asesiadau a mynediad at wasanaethau i’w cadw’n ddiogel ac yn iach gartref, ond maent hefyd yn cysylltu â phobl yn y gymuned i gynnig eu cyngor a’u cefnogaeth.”

02/11/2022