Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Practis Cyffredinol CTM yn ennill Gwobr Nyrs Practis Cyffredinol yng Ngwobrau Practisau Cyffredinol.

Ar 9 Rhagfyr, enillodd un o Nyrsys Practis Cyffredinol CTM, Janette Morgan, Wobr fawreddog Nyrs Practis Cyffredinol Genedlaethol yng Ngwobrau Practisau Cyffredinol yn Llundain.

Mae Janette wedi bod yn gweithio i'r GIG ers dros 18 mlynedd mewn rolau amrywiol a derbyniodd yr anrhydedd hwn am ei gwaith rhagorol fel Nyrs Practis Cyffredinol ym Mhractis 2, Parc Iechyd Keir Hardie.

Dywedodd Dr Padma Nannapaneni, a enwebodd Janette: “Mae hwn yn gyflawniad anhygoel i Janette. Rwyf mor hapus a chyffrous iddi hi ac i holl dîm y practis. Rydyn ni i gyd mor falch ohoni. Yn ôl ei chydweithwyr, mae Janette 'yn glod i'r proffesiwn nyrsio'.

Ar ôl gweithio fel Nyrs Ardal hyd at 2016, mae Janette wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu ein cleifion sydd â chlefydau cronig yn CTM.  Ochr yn ochr â threfnu clinigau ac archwiliadau llwyddiannus, mae hi wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i ofal a phrofiad cleifion.

Enwebwyd Janette am ei hymrwymiad i leihau effaith anadlyddion dos mesuredig ar yr amgylchedd drwy newid i ddewisiadau carbon is. Dechreuodd y prosiect hwn hyd yn oed cyn i CTM sefydlu’r Fenter Anadlyddion Gwyrdd.

Canolbwyntiodd Janette ar Ventolin gan ein bod yn gwybod bod gan Ventolin ôl troed carbon uchel. Mae'n cyfrif am 28kg/C02 fesul anadlydd o'i gymharu â phowdr sych sy'n llai nag 1kg/C02. Mewn Practis Cyffredinol, mae Ventolin yn cyfrif am 25% o'r ôl troed carbon sy’n deillio o ragnodi, felly roedd Janette yn teimlo ei bod hi’n hanfodol bod newidiadau'n cael eu rhoi ar waith ar gyfer dyfodol gwyrddach.

Pwysleisiodd Janette fod dewis a newid anadlyddion yn benderfyniad a oedd yn cael ei wneud ar y cyd â chleifion ym Mhractis 2, Keir Hardie; practis cymharol fach lle mae perthnasau ardderchog rhwng cleifion a chlinigwyr.

Y Canlyniadau

Sicrhawyd gostyngiad o 60% yn ôl troed carbon therapi a anadlir ac mae'r diolch am hynny, yn ôl Janette, i ryngweithio rheolaidd â chleifion, parhad gofal a pherthnasau gwaith da yn y feddygfa.

Wrth siarad am ei gwobr, dywedodd: “Alla i ddim credu fy mod i wedi ennill gwobr; dydw i erioed wedi cael fy enwebu am wobr o'r blaen ac mae’n gymaint o anrhydedd i ennill. Roedd hi’n benwythnos i’w gofio ac rwy’n dal i wenu. Dyma'r balchaf rwyf wedi teimlo erioed. Mae gennym ni berthynas waith dda iawn gyda'n cleifion, ac yn ein harchwiliad o anadlyddion gwyrddach, doedden nhw ddim yn gallu credu'r canlyniadau eu hunain. Rwyf wrth fy modd bod fy ngwaith wedi cael ei gydnabod a gallwn i ddim fod yn hapusach.”

Da iawn Janette - rydyn ni i gyd mor falch ohonot ti yn CTM ac mor ddiolchgar am y gofal rhagorol rwyt ti’n ei roi i'n cleifion bob dydd

 

21/12/22