Neidio i'r prif gynnwy

Y Brenin Siarl yn cymeradwyo Anrhydedd Sant Ioan i Feddyg Arbenigol CTM

Mae Dale Cartwright, un o Feddygon Anaestheteg Arbenigol CTM, wedi cael ei ddyrchafu i radd 'Cadlywydd' o fewn Anrhydedd Urdd Sant Ioan am ei waith gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru a Heddlu De Cymru.

Ers ymuno â CTM dros 10 mlynedd yn ôl, mae Dale wedi cylchdroi drwy nifer o arbenigeddau ac mae bellach yn Feddyg Anaestheteg Arbenigol. Mae gwaith Dale yn cael ei rannu rhwng y prif theatrau, yn darparu anesthesia ar gyfer llawdriniaeth ddewisol a brys, a’r ward geni lle mae ei ddyletswyddau’n cynnwys darparu anesthesia ar gyfer llawdriniaeth Gesaraidd ddewisol a brys, epidwral ar gyfer lleddfu poen ac ymateb i argyfyngau obstetrig amrywiol. 

Mae Dale wedi bod yn gwirfoddoli gydag Ambiwlans Sant Ioan ers 23 mlynedd. Ymunodd fel cadét yn 13 oed, ac mae’n parhau i wirfoddoli fel Meddyg y Dorf yn Stadiwm y Principality ynghyd â digwyddiadau mawr eraill, fel digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol, cyngherddau cerddoriaeth, Hanner Marathon Caerdydd ac ati.

Dale hefyd yw’r Rheolwr Clinigol Sirol ar gyfer Morgannwg Ganol, lle mae’n gyfrifol am Arweinyddiaeth a Llywodraethu Clinigol ar gyfer tîm o Weithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol gwirfoddol yn y Sir.

Ochr yn ochr â gwirfoddoli gydag Ambiwlans Sant Ioan, mae Dale hefyd yn gwirfoddoli i Heddlu De Cymru. Ers dros 16 mlynedd, mae Dale wedi gwirfoddoli fel Cwnstabl Gwirfoddol, gan wasanaethu mewn nifer o rengoedd mewn lifrai.

Yn 2012, dyrchafwyd Dale i reng Prif Swyddog yr Heddlu Gwirfoddol. Mae hyn yn golygu bod Dale yn gyfrifol am gyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth gyffredinol yr Heddlu Gwirfoddol.

Mae Dale wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ei rolau gwirfoddoli ac mae'n un o ddim ond dau gwnstabl gwirfoddol yn Ne Cymru sydd wedi hyfforddi fel Meddyg PSU, lle mae wedi plismona'r digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol niferus sydd wedi cael eu cynnal yn Ne Cymru.

Yn 2021, cafodd ei gomisiynu’n Ddirprwy Raglaw Morgannwg Ganol. Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Morgannwg Ganol yw cynrychiolydd personol y Brenin yn y Sir; mae'r rôl hon yn cynnwys cynllunio ymweliadau Brenhinol a hebrwng aelodau o'r Teulu Brenhinol yn ystod ymweliadau â'r Sir; hwyluso Anrhydeddau a Gwobrau ac ati; cyflwyno gwobrau'r Ymerodraeth Brydeinig a Gwobrau'r Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol a Menter; cynrychioli'r Brenin mewn amryw o ddigwyddiadau yn y Sir.

Mae hwn yn gyflawniad enfawr i Dale ac mae wrth ei fodd ei fod wedi cael ei gymeradwyo. Meddai Dale: “Cefais fy synnu'n llwyr o dderbyn y fath anrhydedd, yn syml am wneud y pethau rwy'n eu mwynhau.

“Mae gwirfoddoli bob amser wedi bod yn rhan amlwg o’m mywyd a gallaf ddweud yn onest fy mod wedi cael mwy o'r rolau gwirfoddoli amrywiol hyn nag yr wyf wedi'i roi iddyn nhw. Dydw i ddim yn credu y byddwn i lle rydw i nawr yn fy ngyrfa oni bai am y profiadau a'r sgiliau rydw i wedi'u cael fel gwirfoddolwr.

“Yn dilyn y newyddion am y wobr hon, rydw i wedi derbyn cymaint o sylwadau caredig a hael gan ffrindiau a chydweithwyr yn CTM ac maen nhw wedi gwneud i fi deimlo’n wirionedd ostyngedig. Mae'n golygu llawer iawn i fi.”

Llongyfarchiadau Dale, rydyn ni i gyd yn falch ohonot ti yma yn CTM! #ArEinGorau

 

23/03/2023