Neidio i'r prif gynnwy

Maer a Chynghorydd Merthyr Tudful yn ymweld â rhaglen adnewyddu Ysbyty'r Tywysog Siarl

Ar ôl gohirio ymweliadau arfaethedig ag Ysbyty’r Tywysog Siarl oherwydd pwysau’r pandemig, roedd y Bwrdd Iechyd yn falch o groesawu’r Cynghorydd Geraint Thomas, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a’r Cynghorydd Declan Sammon, Maer Merthyr Tudful i Ysbyty’r Tywysog Siarl yn gynharach y mis hwn.  

Treuliodd y grŵp brynhawn diddorol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y rhaglen pum mlynedd i adnewyddu’r Ysbyty, sydd bellach yn ei hail flwyddyn. Hyd yn hyn, dim ond un diwrnod o oedi sydd wedi’i nodi o ran y rhaglen waith, a hynny oherwydd Gŵyl y Banc annisgwyl yn ddiweddar.  

Dywedodd Jeremy Holifield, Swyddog Cyfrifol ar gyfer y rhaglen yn y Bwrdd Iechyd: “Mae cynnal rhaglen mor gymhleth o waith mawr mewn ysbyty prysur yn gyflawniad sylweddol - er bod gennym nifer o flynyddoedd o’n blaenau o hyd, dylai Tilbury Douglas, prif gontractwr y rhaglen a phawb sy’n gysylltiedig â’r prosiect gael eu canmol am y cynnydd sy’n cael ei wneud”.  

Rhoddodd Bill Rogers, Cyfarwyddwr y Rhaglen yn y Bwrdd Iechyd ganmoliaeth i staff, ymwelwyr a chleifion hefyd am eu dealltwriaeth a’u hyblygrwydd wrth gefnogi datblygiad y gwelliannau hynod fuddiol hyn ar draws y safle.

Fel rhan o’r diweddariad, cerddodd y Cynghorydd Thomas a’r Maer o amgylch y safle gyda Mel Jehu, Aelod Annibynnol y Bwrdd Iechyd dros y Gymuned, a’r Prif Swyddog Gweithredu Gethin Hughes – ymwelodd y grŵp â nifer o ardaloedd sydd wedi’u cwblhau, gan siarad â chydweithwyr fferylliaeth a gweld y robot fferyllfa newydd ar waith. Ymwelwyd hefyd â'r cyfleusterau arlwyo, barista ac ystafell fwyta newydd a gwell sy'n cefnogi staff, ymwelwyr a chleifion.  

Rhoddwyd gwybod i'r ymwelwyr am y gwelliannau presennol i'r maes parcio ar y safle sydd wedi’u cwblhau yn gynharach na’r disgwyl. Erbyn hyn, mae’r holl fannau presennol wedi'u hailwynebu'n llawn ac mae goleuadau, llwybrau cerdded a mannau croesi newydd. Roedden nhw’n falch iawn o glywed bod y maes parcio hefyd wedi cael ei ehangu i gynnwys 140 o leoedd ychwanegol, gan gynnwys llawer mwy o leoedd i bobl anabl, a bod cynlluniau i’w ehangu ymhellach maes o law.      

Gwelodd yr ymwelwyr ardaloedd sydd wrthi’n cael eu hadeiladu hefyd, gan gerdded trwy’r rhai sy’n cael eu hadeiladu i ddarparu llety i gleifion allanol ar y llawr gwaelod ac ystafelloedd theatr ar y llawr cyntaf – aeth y grŵp wedyn i do’r ysbyty i weld yr ystafell beiriannau newydd yn cael ei hadeiladu uwchlaw’r drychiadau blaen presennol. O’r fan honno, roedd golygfa wych o'r ddau graen tŵr ar waith.   

Dywedodd y Cynghorydd Thomas:  “Gwnaeth ansawdd y gwaith a’r cynnydd sy’n cael ei wneud ar raglen adnewyddu Ysbyty’r Tywysog Siarl argraff fawr ar y Maer a minnau, yn enwedig gan ei fod yn digwydd mewn amgylchedd ysbyty hynod o brysur.  Bydd y gwelliannau, heb os, yn cyfoethogi’r profiad i gleifion, eu hymwelwyr, a’r staff am flynyddoedd i ddod.”

 

05/12/2022