Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Anabledd

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anabledd hoffem rannu taith Rhys. Mae Rhys yn intern ar y prosiect SEARCH, Cysylltu i Newid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Aeth Rhys Harris, 25, o fyfyriwr coleg i weithiwr rheng flaen hanfodol y GIG mewn dwy flynedd. Dechreuodd Rhys yr interniaeth a gafodd ei chefnogi gan y prosiect 'SEARCH Cysylltu i Newid ' yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym mis Medi 2018. Yn ystod ei leoliad cyntaf, ymunodd Rhys â'r adran fferylliaeth lle cafodd hyder ar sut i archebu meddyginiaethau ar y systemau fferylliaeth yn ogystal ag ystod o dasgau cyffredinol eraill. Roedd lleoliad Rhys yn yr adran fferylliaeth mor llwyddiannus nes iddo benderfynu y byddai'n aros yn yr un lleoliad drwy gydol ei interniaeth.

Ar ôl i Rhys raddio o'r interniaeth parhaodd i weithio mewn fferylliaeth yn wirfoddol, nes bod swydd wag ar gyfer cynorthwyydd fferyllfa llawn amser ar gael.  Cafodd Rhys ei gefnogi gan y prosiect ac roedd yn llwyddiannus yn y cyfweliad ar gyfer y rôl, gan weithio drwy'r pandemig fel cynorthwyydd fferyllfa.  Mae Rhys wedi bod yn hanfodol i sicrhau bod cleifion yn yr ysbyty yn derbyn eu presgripsiynau a bod wardiau'n cael y meddyginiaethau angenrheidiol. Er bod Rhys yn cyfaddef ei bod yn heriol gweithio yn yr ysbyty yn ystod y pandemig, mae hefyd yn falch iawn o'r gwaith hanfodol ac angenrheidiol yr oedd yn gallu ei wneud i gefnogi'r GIG ac mae'n edrych ymlaen at symud ymlaen yn ei rôl.

Mae’r Prosiect Cysylltu i Newid yn interniaeth sydd wedi’i chefnogi gan SEARCH yn ysbyty Tywysoges Cymru. Mae’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth rhwng Cysylltu i Newid, Prosiect DFN SEARCH, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Cwrdd â'r interniaid 2021/2022 yn Ysbyty Tywysoges Cymru Cwrdd â'r Interniaid: Prosiect SEARCH Cysylltu i Newid yn Ysbyty Tywysoges Cymru 2021/2022 - YouTube

Mae prosiect Cysylltu i Newid yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth rhwng Anabledd Dysgu CymruAgoriad CyfELÎT a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd, Mae’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y Prosiect Cysylltu i Newid ewch i Cysylltu i Newid