Neidio i'r prif gynnwy

Mae Peilot Gwiriadau Iechyd yr Ysgyfaint yn cwblhau ei wythnos gyntaf o sganio yn BIP CTM

Rydym wrth ein bodd bod y sganiau sgrinio ysgyfaint cyntaf wedi'u darparu i gleifion sy'n cymryd rhan yn y peilot gwiriadau iechyd yr ysgyfaint.  Bydd y peilot yn gweld cleifion yn cael cynnig eu sganiau sgrinio mewn blociau o dair wythnos. Daeth wythnos gyntaf sganio i ben yr wythnos diwethaf, gyda'r ail garfan yn digwydd am wythnos ym mis Hydref (21-25), a'r drydedd garfan am wythnos ym mis Tachwedd.  O'r garfan gyntaf, mynychodd dros 89% o'r cleifion a wahoddwyd am sgan yr ysgyfaint yn yr uned sganio symudol. Roedd y sganiwr symudol ar safle Ysbyty Cwm Rhondda, er mwyn i’r cleifion ymweld yn hawdd. 

Dywedodd un o'r cleifion a ymwelodd â'r sganiwr: “Rydw i’n falch iawn fy mod wedi cael gwahoddiad am wiriad iechyd yr ysgyfaint. Mae fy ngŵr a minnau yma heddiw am sgan oherwydd i ni fodloni meini prawf y peilot.  Roeddwn i'n arfer ysmygu ond rhoddais y gorau iddi dros 25 mlynedd yn ôl a rhoddodd fy ngŵr y gorau i ysmygu dros 34 mlynedd yn ôl. Mae cael gwiriad ar eich ysgyfaint i nodi unrhyw broblemau posibl ar yr ysgyfaint cyn bod gennych unrhyw arwyddion neu symptomau yn wych.

“Roedd y broses yn syml ac yn gyflym ac roedd y staff yn gyfeillgar ac effeithlon iawn.  Byddwn yn dweud wrth unrhyw un sydd â gwahoddiad i ymgymryd â'r cynnig o sgan a dal unrhyw broblemau posibl yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.”

Dywedodd Dr Sinan Eccles, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Anadlol, sy'n arwain y peilot ar ran y bwrdd iechyd: "Gall dal canser yr ysgyfaint yn gynnar, cyn bod unrhyw arwyddion neu symptomau, wneud gwahaniaeth enfawr i driniaeth.  Aeth wythnos gyntaf sganio yn dda iawn gyda'r rhan fwyaf o gleifion yn mynychu eu hapwyntiadau ac yn ennill gwybodaeth a all eu cefnogi.  Fe wnaethom hefyd atgyfeirio 24 o gleifion at ein gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu 'Helpa Fi i Stopio' sy'n gam mawr ymlaen i’w hiechyd.”

 

11/10/2023