Neidio i'r prif gynnwy

Mae Menter Canser Moondance wedi dyfarnu cyllid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i wella canlyniadau canser yng Nghymru

Mae Menter Canser Moondance wedi cyhoeddi y bydd dros hanner miliwn o bunnoedd yn cael ei roi i saith prosiect a arweinir gan dimau ledled GIG Cymru fel rhan o’i rownd ariannu ddiweddaraf i wella canlyniadau canser yng Nghymru.

Ymhlith y prosiectau a gafodd eu hariannu mae menter lle bydd ymarferwyr nyrsio llawfeddygol yn cael eu hyfforddi i ddarparu clinigau biopsi dyddiol i gleifion allanol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Bydd yr ehangiad llwybr yma’n lleihau’r amser mae’n ei gymryd i wneud diagnosis ar gyfer llawer o gleifion canser y pen a’r gwddf, gan ryddhau capasiti i gleifion eraill sy’n aros am ddiagnosis a thriniaeth.

Yn ogystal â’r ehangiad llwybr yma, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg hefyd wedi cael cyllid ar gyfer Llywiwr Canser yr Ysgyfaint i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun peilot Gwirio Iechyd yr Ysgyfaint. Bydd y gwaith yma’n cynorthwyo â gwaith asesu gweithredol sgrinio canser yr ysgyfaint wedi’i dargedu yng Nghymru, a bydd yn helpu cleifion i gael diagnosis yn gynt ac yn fwy effeithlon. Bydd y llywiwr yn cefnogi cleifion drwy lwybr clinigol canser yr ysgyfaint i sicrhau eu bod yn cael gofal priodol mewn modd amserol. Bydd y gwasanaeth yn cael ei werthuso i gefnogi’r broses o’i gyflwyno ledled Cymru yn y dyfodol.

Mae arloesiadau eraill a gafodd eu hariannu yn cynnwys Cytosponge™, sef prawf diagnostig newydd i Gymru a allai gynorthwyo â gwneud diagnosis o ganser yn gynt i gleifion ag oesoffagws Barrett ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, datblygiad gafodd gyllid yn flaenorol gan Moondance ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae prawf biopsi hylif diagnostig, dan arweiniad Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan, a ddefnyddir gyda chleifion y tybir bod canser yr ysgyfaint arnynt i leihau’r amser mae’n ei gymryd i wneud diagnosis ac i gynyddu nifer y cleifion sy’n cael therapi wedi’i dargedu, hefyd wedi cael ei ariannu. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe hefyd wedi cael ei ariannu i brofi’r defnydd o CanSense, sef prawf biopsi hylif sy’n gallu canfod canser y coluddyn, mewn ymagwedd strategol ar gyfer y cleifion dan wyliadwriaeth colonosgopi sy’n aros hiraf.

Dewiswyd y prosiectau yma gan Moondance fel rhan o Alwad Ariannu Canfod a Diagnosis Cynnar, sydd â’r nod o gyflymu’r broses o roi newidiadau ar waith a fydd yn cynyddu nifer y canserau sy’n cael diagnosis cynnar yng Nghymru. Cafodd 34 o brosiectau eu cyflwyno yn y rownd ariannu, a bu saith o’r rhain yn llwyddiannus.

Mae Menter Canser Moondance yn bodoli i ganfod, i ariannu ac i hybu pobl wych a syniadau dewr er mwyn gosod Cymru ar flaen y gad o ran goroesi canser. Gyda’r rownd ariannu ddiweddaraf yma, mae 26 o brosiectau gweithredol yn cael eu hariannu gan y fenter ledled Cymru bellach, gan gynnwys ehangu'r Ganolfan Diagnosis Cyflym ym Mae Abertawe a chyflwyno endosgopi trawsdrwynol ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Meddai’r Athro Jared Torkington, Cyfarwyddwr Clinigol ym Menter Canser Moondance: “Mae ganddon ni gyfle unigryw ym Moondance i ariannu syniadau a all gael effaith bendant ar ganfod a gwneud diagnosis cynt i gleifion canser, gan helpu i wella canlyniadau canser ledled Cymru. Rydyn ni’n gwybod bod rhestrau aros ac atgyfeiriadau ar gyfer triniaethau canser yn uwch nag erioed, felly mae angen i GIG Cymru feddwl a gweithredu mewn ffordd wahanol. Mae cysylltu gydag arloeswyr a chefnogi syniadau fel y rhain yn gam tuag at wneud Cymru’n arweinydd byd-eang o ran canlyniadau canser.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://moondance-cancer.wales/

 

16/12/22