Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ceri yn Seren Cavell!

Mae Ceri Thomas, Prif Nyrs sydd bellach wedi ymddeol, oedd yn gweithio yn yr Uned Gofal Dwys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, wedi ennill Gwobr Seren Cavell.

Mae Gwobrau Seren Cavell yn rhaglen wobrau genedlaethol ysbrydoledig ar gyfer nyrsys, bydwragedd, cymdeithion nyrsio a chynorthwywyr gofal iechyd sy’n serennu wrth roi gofal eithriadol i un o dri grŵp o bobl: Eu cydweithwyr; eu cleifion; neu deuluoedd y cleifion.

Enillodd Ceri’r wobr am fynd tu hwnt i’r disgwyl ar gyfer ei chleifion a’i chydweithwyr.

Roedd ei henwebiad yn tynnu sylw at y canlynol: ei harweiniad a’i thosturi rhagorol; ei bod bob tro yn gwneud amser i wrando ar staff, yn ogystal â’u helpu i gyrraedd eu potensial; ei bod bob tro yn mynd tu hwnt i’r disgwyl ar gyfer ei chleifion; a’i bod yn blaenoriaethu diogelwch cleifion ar bob adeg.

Dywedodd Greg Dix, y Cyfarwyddwr Nyrsio, Bydwreigiaeth a Gofal Cleifion, oedd yn y cyflwyniad: “Mae derbyn Gwobr Seren Cavell yn anrhydedd mawr ym maes nyrsio. Rydyn ni fel Bwrdd Iechyd yn falch iawn o gyflawniadau Ceri, ac rydyn ni wrth ein boddau fod ei chymorth, ei hanogaeth, ei gofal a’i thosturi wedi cael eu gwobrwyo.”

Mae ei ffrindiau a’i chydweithwyr yn cytuno y byddai ei phersonoliaeth a’i gwên yn goleuo unrhyw stafell, ni waeth pa mor brysur oedd y sifft.

Dywedodd Ceri: “Roedd hi’n gymaint o sioc, a dwi mor hapus fy mod wedi ennill y wobr hon. Doedden i ddim yn gwybod ‘mod i wedi cael fy enwebu hyd yn oed! Ond dwi ar ben fy nigon.

“Diolch yn fawr i fy nghydweithwyr i gyd.”

Cyflwynodd yr Anaesthetegydd Ymgynghorol, Dr Pete Fitzgerald, y wobr i Ceri o flaen ei ffrindiau a’i chydweithwyr. Cafodd hi ychydig o syndod!

Derbyniodd Ceri fedal Seren Cavell a bathodyn pin Seren Cavell hyfryd y bydd yn ei wisgo â balchder.

Dywedodd Deborah Matthews, y Pennaeth Nyrsio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg: "Ces i’r fraint o weithio ochr yn ochr â Ceri ar ddechrau ei gyrfa pan oedd hi’n Nyrs Staff Gofal Dwys yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg.

“Roedd Ceri yn ysbrydoliaeth, ac roedd yn esiampl ragorol ac yn fentor oedd yn rhoi cleifion, eu teuluoedd a’i chydweithwyr wrth wraidd popeth roedd hi’n ei wneud.

“Gwelais i Ceri yn datblygu yn broffesiynol ac yn dod yn rheolwr uned oedd yn arwain tîm arbennig hyd nes iddi ymddeol yn ddiweddar.

“Mae ennill y wobr yn gyflawniad arbennig, ac yn rhywbeth y gall Ceri fod yn falch iawn ohono. Rwy’n dymuno pob hapusrwydd i Ceri ar gyfer y dyfodol.”